bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Matthew 22
Matthew 22
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
1
YNo ydd atepawd yr Iesu, ac a lavarawdd wrthwynt drachefyn ym‐parabolae, gan ddywedyt,
2
Cyffelyp yw teyrnas nefoeð i ryw Vrenhin a wnaethoedd briodas yw vap,
3
ac a dd anvonawdd ei weision i ’alw yr ei a ohadde s it ir briodas, ac ny vynnesont wy ddawot:
4
Trachefyn y d anvones ef weision er‐eill, gan dywedyt, Dywedwch wrth yr ei a ’ohaddwyt, Wele, paratoais vy‐giniaw: vey ychen am pascedigion a ladwyt, a’ phop peth ys y parat: dewch i’r priodas.
5
Ac wy vu ddiystyr ganthwynt, ac aethant ymaith, vn y’w duy, ac arall y’w vasnach.
6
Ac y relyw a ddaliesont y y weision ef, ac ei gwarthruddiesont, ac a ei llaðesont.
7
A’ phan glypu yr Brenhin, y llidiawdd, ac a dd anvones allan ei lueddwyr, ac a ddinistriawdd y lladdwyr hynny, ac a loscawdd eu dinas.
8
Yno y dyvot ef wrth ei weision, Yn wir y briodas ys y parat: anid yr ei a ohode s it, nid oeddent teilwng.
9
Ewch gan hyny allan i’r priffyrð, a’ chynniuer y gaffoch, gohaddwch i’r briodas.
10
Yno ’r gweision hyny aethant allan ir prifffyrdd, ac a gesclesont ynghyt gynniuer oll ac gawsont, ddrwc a’ da: ac a lanwyt y briodas o ’ohaddwyr.
11
Yno ’r Brenhin e ddeuth y mewn, y weled y gohawddwyr, ac a ganvu yno ddyn nid oedd gwisc priodas amdauaw.
12
Ac ef a ddyvot wrthaw, Y cyveil’ pa ddelw yd aethost y mewn yma, eb vot am danat gwisc priodas? Ac ynte aeth yn vut.
13
Yno y dyvot y Brenhin wrth y gweision, Rwymwch y draet a’ ei ddwylo: cymerwch ef ymaith, a’ thavlwch i’r tywyllwch eithav: ynaw y bydd wylofain, ac yscyrnygy dannedd.
14
Can ys llawer a elwir, ac ychydic ion a ddetholir. Yr Euangel y xxiij. Sul gwedy Trintot.
15
¶ Yno ydd aeth y Pharisaieit, ac a gymersont gygcor pa vodd y dalient ef yn ei ymadrawdd.
16
Ac wy a dd anvonesont attaw ei ddiscipulon y gyd a’r Herodiait, can ddywedyt, Athro, gwyddam dy vot yn ’air wir, ac yn dyscy ffordd Dduw yn‐gwirionedd, ac nyd oes arnat oval nep: can nad wyt yn edrych ar wynep dynion.
17
Dywet y‐ni gan hynny, beth a dyby di? Ai iawn rhoddy teyrnget i Caisar, ai ny d yw?
18
A’r Iesu yn gwybot y drigioni wy, a ddyvot, Paam im temptwch vi chwychwi hypocriteit?
19
dangoswch ymy vath y deyrnget. Ac wy a roeson attaw geiniawc.
20
Ac ef a ddyvot wrthynt, Pwy pie’r ddelw hon a’r argraph?
21
Dywedesont wrthaw, Caisar. Yno ydyvot ef wrthwynt, Rowch gan hyny ys ydd i Caisar, i Caisar, a’ rhowch i Dduw y pethe ys yð y Dduw.
22
A’ phan glywsant wy hyn, ryveddy awnaethant, a’ ei ady a’ myned ymaith.
23
Y dydd hwnw y daeth y Zadducaieit ataw, (yr ei a ddywedan nad oes cyfodedigaeth) ac ovynesont iddo,
24
gan ddywedyt, Athro, eðyvot Moysen, a’s bydd marw vn, eb yddo blant, priodet ei vrawd y wraic ef, a chyfodet had y’w vrawt.
25
Ac ydd oedd gyd nyni saith broder, a’r cyntaf a briodawdd wreic, ac a vu varw: ac ef eb hiliogeth iddaw, a adawodd ei wreic y’w vrawt.
26
Yr vn ffynyt yr ail, a’r trydydd, yd y saithfed.
27
Ac yn ðywethaf oll y bu varw’r wreic hefyt.
28
Can hyn yn y cyfodedigaeth, gwraic i bwy o’r saith vydd hi: can ys pop vn y cawsei hi.
29
Yno ydd atepawdd yr Iesu ac y dyvot wrthynt, Cyfeiliorny ydd ych, eb wybot yr Scrythurae, na meddiant Dyw.
30
O bleit yn y cyfodedigaeth nid ynt yn gwreica, nag yn gwra, n amyn, bot val Angelion Dew yn y nef oedd.
31
Ac am gyfodedigaeth y meirw, any ddarllenysoch hyn a ddywetpwyt wrthych gan Dduw, yn dywedyt,
32
Mi yw Duw Abraham, Dew Isaac, a’ Dew Iaco? Dew nid yw Ddew ’r meirw, n amyn y bywion.
33
A’ phan glybu’r popul hyny, rhyfeddy a wnaethant am ei ddysc eidaeth ef. Yr Euangel y xviij. Sul gwedy Trintot.
34
¶ A’ gwedy clybot o’r Pharisaieit ddarvot i’r Iesu ’oystegu y Saddukaieit, wynt a ymgynullesant ir vn‐lle.
35
Ac vn o hanwynt yr hwn oeð Gyfreithiwr a ymofynawdd ac ef, er ei brovi gan ðywedyt,
36
Athro, pa vn ywr gorchymyn mawr yn y Ddeðyf?
37
Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Cery yr Arglwydd dy Dduw o’th oll calon, ac o’th oll eneit, ac o’th oll veddwl.
38
Hwn yw’r cyntaf a’r gorchymyn mawr.
39
A’r ail ys y gyfelip i hwnn, Cery dy gymydawc mal tuhun.
40
Yn y ddau ’orchymyn hynn y saif yr oll Ddeðyf a’r Prophwyti.
41
A’ gwedy ymgascly o’r Pharisaieit yn‐cyt, y govynnawdd yr Iesu yddwynt,
42
can ddywedyt, Peth a dybygwch chwi am y Christ? map i bwy ytyw? Dywedesont wrthaw, Map Dauid.
43
Ef a ddyvot wrthwynt, can hyny pa vodd y mae Dauid yn yr yspryt yn y y ’alw ef yn Arglwydd, can ðywedyt,
44
Dywedawð yr Arglwydd wrth vy Arglwydd, Eistedd ar vy‐deheulaw y ny ’osotwyf dy ’elynion yn droetvainc y‐ty?
45
Ac a’s galwadd Dauid ef yn Arglwydd pywedd y mae ef yn Vap iddaw?
46
Ac ny vetrawdd vn‐dyn atep gair iddaw, ac ny veiddiawdd nep o’r dydd hwnw allan ymgwestioni ddim ac ef mwy ach.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28