bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Chronicles 10
1 Chronicles 10
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 11 →
1
Ymladdodd y Philistiaid yn erbyn yr Israeliaid, a ffodd yr Israeliaid rhagddynt gan syrthio'n glwyfedig ar Fynydd Gilboa.
2
Daliodd y Philistiaid Saul a'i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab a Malcisua, meibion Saul.
3
Aeth y frwydr yn galed yn erbyn Saul, a daeth saethwyr o hyd iddo a'i glwyfo.
4
Yna dywedodd Saul wrth ei gludydd arfau, "Tyn dy gleddyf a thrywana fi, rhag i'r rhai dienwaededig hyn ddod a'm gwaradwyddo." Nid oedd ei gludydd arfau yn fodlon, oherwydd yr oedd ofn mawr arno; felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno.
5
Pan welodd y cludydd arfau fod Saul wedi marw, syrthiodd yntau ar ei gleddyf a marw.
6
Felly bu farw Saul a'i dri mab, ei holl deulu yn marw yr un pryd.
7
Pan welodd yr holl Israeliaid oedd yn y dyffryn fod y fyddin wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant eu trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt.
8
Trannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio'r lladdedigion, cawsant Saul a'i feibion yn farw ar Fynydd Gilboa.
9
Wedi iddynt ei ysbeilio torasant ei ben a chymryd ei arfau oddi arno, ac anfon neges drwy Philistia i gyhoeddi'r newydd da i'w delwau ac i'r bobl.
10
Rhoesant ei arfau yn nheml eu duwiau, a chrogi ei benglog yn nheml Dagon.
11
Pan glywodd pobl Jabes-gilead y cwbl yr oedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,
12
aeth yr holl ryfelwyr allan ar unwaith a chymryd corff Saul a chyrff ei feibion, a'u cludo i Jabes a chladdu eu hesgyrn dan y dderwen yno, ac ymprydio am saith diwrnod.
13
Bu Saul farw am iddo fradychu'r ARGLWYDD trwy anufuddhau i'w air, a throi at ddewiniaeth am arweiniad yn lle ceisio arweiniad gan yr ARGLWYDD.
14
Felly lladdodd yr ARGLWYDD ef a rhoi'r frenhiniaeth i Ddafydd fab Jesse.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29