bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Chronicles 9
1 Chronicles 9
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 10 →
1
Rhifwyd holl Israel wrth eu hachau, ac y maent yn awr yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel, ond cafodd Jwda ei chaethgludo i Fabilon am ei chamwedd.
2
Y rhai cyntaf i ddod i fyw yn eu tiriogaeth a'u trefi eu hunain oedd yr Israeliaid, yn offeiriaid, Lefiaid a gweision y deml.
3
Dyma'r rhai o lwyth Jwda, o lwyth Benjamin ac o lwyth Effraim a Manasse, oedd yn byw yn Jerwsalem:
4
O lwyth Jwda: Uthai fab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda;
5
ac o'r Siloniaid: Asaia y cyntafanedig, a'i feibion;
6
ac o feibion Sera: Jeuel. Yr oeddent yn chwe chant a deg a phedwar ugain.
7
O lwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua;
8
Ibneia fab Meroham, Ela fab Ussi, fab Michri: Mesulam fab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija;
9
yn l rhestrau eu teuluoedd yr oeddent yn naw cant a deg a deugain a chwech. Yr oeddent i gyd yn bennau-teuluoedd.
10
O'r offeiriaid: Jedaia, Jehoiarib, Jachin,
11
Asareia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tu375? Dduw;
12
Adaia fab Jeroham, fab Passur, fab Malcheia; Maasia fab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.
13
Ac yr oedd eu brodyr, eu pennau-teuluoedd, yn fil saith gant chwe deg, dynion abl ar gyfer y gwaith o wasanaethu yn nhu375? Dduw.
14
O'r Lefiaid: Semaia fab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari;
15
Bacbaccar, Heres, Galal, Mataneia fab Micha, fab Sichri, fab Asaff;
16
Obadeia fab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; Berecheia fab Asa, fab Elcana, oedd yn byw yn nhrefi'r Netoffathiaid.
17
o'r porthorion: Salum, Accub, Talmon, Ahiman, a'u brodyr; Salum oedd y pennaeth.
18
Hyd at yr amser hwnnw porthorion oeddent yng ngwersylloedd y Lefiaid wrth ymyl porth y brenin i'r dwyrain.
19
Salum fab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'i frodyr y Corahiaid o du375? ei dad, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth o gadw trothwy'r babell, fel yr oedd eu tadau yn geidwaid y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.
20
Phinees fab Eleasar oedd eu harolygwr, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.
21
Sechareia fab Maselmeia oedd ceidwad drws pabell y cyfarfod.
22
Yr oedd cyfanswm y rhai oedd wedi eu dethol i fod yn borthorion wrth y trothwy yn ddau gant a deuddeg, wedi eu cofrestru yn l eu pentrefi. Dafydd a Samuel y gweledydd oedd wedi eu gosod yn eu swydd.
23
Yr oedd-ent hwy a'u meibion yn cadw gwyliadwriaeth wrth byrth tu375?'r ARGLWYDD a thu375?'r babell.
24
Yr oedd y porthorion i fod ar bedair ochr, y dwyrain, y gorllewin, y gogledd a'r de.
25
Yr oedd eu brodyr o'r pentrefi i ddod atynt am wythnos bob hyn a hyn.
26
Am eu bod yn ddibynadwy, Lefiaid oedd y pedwar prif borthor, a hwy oedd yn gofalu am ystafelloedd a thrysorau tu375? Dduw.
27
Yr oeddent yn lletya o gwmpas tu375? Dduw am mai hwy oedd yn gofalu amdano ac yn ei agor bob bore.
28
Yr oedd rhai ohonynt yn gofalu am lestri'r gwasanaeth; yr oeddent yn eu cyfrif wrth eu cario allan ac wrth eu cadw.
29
Yr oedd eraill yn gofalu am ddodrefn a llestri'r cysegr, y peilliaid, y gwin, yr olew, y thus a'r perlysiau.
30
Yr oedd rhai o feibion yr offeiriaid yn gwneud ennaint gyda pheraroglau.
31
Am ei fod yn ddibynadwy, yr oedd Matitheia, un o'r Lefiaid a mab cyntafanedig Salum y Corahiad, yn gweithio wrth y radell.
32
Yr oedd rhai o'u brodyr y Cohathiaid yn gyfrifol am ddarparu'r bara gosod bob Saboth.
33
Dyma'r cantorion, pennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd mewn ystafelloedd ar wahn am eu bod wrth eu gwaith ddydd a nos.
34
Dyma bennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn l eu rhestrau.
35
Yr oedd Jehiel tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha,
36
a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Ner, Nadab,
37
Gedor, Aho, Sechareia a Micloth;
38
Micloth oedd tad Simeam. Yr oeddent hwy yn byw yn Jerwsalem yn ymyl eu brodyr.
39
Ner oedd tad Cis, a Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal.
40
Mab Jonathan oedd Meribaal; a Meribaal oedd tad Micha.
41
Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea ac Ahas.
42
Ahas oedd tad Jara, a Jara oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri; a Simri oedd tad Mosa;
43
Mosa oedd tad Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.
44
Yr oedd gan Asel chwech o feibion, a'u henwau oedd: Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia a Hanan. Hwy oedd meibion Asel.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29