bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Chronicles 28
1 Chronicles 28
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 29 →
1
Casglodd Dafydd i Jerwsalem holl swyddogion Israel, arweinwyr y llwythau, swyddogion y dosbarthiadau a oedd yn gwasanaethu'r brenin, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, arolygwyr holl eiddo a gwartheg y brenin a'i feibion, ynghyd 'r eunuchiaid, y rhyfelwyr a phob gu373?r nerthol.
2
Cododd y Brenin Dafydd ar ei draed a dweud, "Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr a'm pobl. Yr oeddwn 'm bryd ar adeiladu tu375?, yn orffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD ac yn droedfainc i'n Duw, a pharatoais i wneud hynny.
3
Ond dywedodd Duw wrthyf, 'Ni chei di adeiladu tu375? i mi, oherwydd buost yn rhyfelwr ac yn tywallt gwaed.'
4
Dewisodd ARGLWYDD Dduw Israel fyfi o'm holl deulu i fod yn frenin ar Israel am byth; dewisodd Jwda i arwain, ac o fewn Jwda fy nheulu i, ac o blith meibion fy nhad, i mi y rhoes y fraint o fod yn frenin ar Israel gyfan.
5
O'm holl feibion ac fe roddodd yr ARGLWYDD lawer ohonynt imi fe ddewisodd fy mab Solomon i eistedd ar orsedd frenhinol yr ARGLWYDD dros Israel.
6
Dywedodd wrthyf, 'Dy fab Solomon sydd i adeiladu fy nhu375? a'm cynteddau, oherwydd dewisais ef yn fab imi, a byddaf finnau'n dad iddo yntau.
7
Sefydlaf ei frenhiniaeth ef am byth, os bydd yn ymdrechu i gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau fel y gwneir heddiw.'
8
Yn awr, yng ngu373?ydd holl Israel, sef cynulleidfa yr ARGLWYDD, ac yng nghlyw ein Duw ni, gofalwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, er mwyn i chwi feddiannu'r wlad dda hon a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.
9
A thithau, Solomon fy mab, bydded i ti adnabod Duw dy dad, a'i wasanaethu ef chalon berffaith ac ysbryd ewyllysgar, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn chwilio pob calon ac yn deall holl ddychymyg y meddwl. Os ceisi ef, fe'i cei; ond os gwrthodi ef, bydd yntau'n dy wrthod dithau am byth.
10
Ystyria'n awr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddewis i adeiladu tu375? yn gysegr iddo; bydd gryf, a dechrau ar y gwaith."
11
Rhoddodd Dafydd i'w fab Solomon gynllun porth y deml, a'i hadeiladau, ei hystordai, ei goruwchystafelloedd, ei hystafelloedd mewnol a'r drugareddfa.
12
Rhoddodd iddo hefyd gynllun o'r cyfan a gafodd trwy'r ysbryd ynglu375?n chynteddau tu375?'r ARGLWYDD, yr holl ystafelloedd o'i gwmpas, trysordai tu375? Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig.
13
Rhoddodd iddo gyfarwyddyd am ddosbarthiadau'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl waith ynglu375?n thu375?'r ARGLWYDD, a'r holl lestri ar gyfer y gwasanaeth.
14
Pennodd bwysau'r aur ar gyfer yr offer aur, a'r arian ar gyfer yr offer arian a ddefnyddid yn y gwahanol wasanaethau:
15
pwysau'r aur ar gyfer y canwyllbrennau aur a'u lampau; pwysau'r arian ar gyfer y canwyll-brennau arian, yn l pwysau pob canhwyllbren a'i lampau, a'r defnydd a wneid ohonynt;
16
pwysau'r aur ar gyfer un o fyrddau'r bara gosod, ac arian ar gyfer y byrddau arian;
17
aur pur ar gyfer y ffyrch, y costrelau a'r dysglau; pwysau'r aur ar gyfer y cawgiau aur, a phwysau'r arian ar gyfer y cawgiau arian;
18
pwysau'r aur coeth ar gyfer allor yr arogldarth. Rhoddodd iddo hefyd gynllun cerbyd, a'r cerwbiaid aur oedd ag adenydd estynedig yn gorchuddio arch cyfamod yr ARGLWYDD.
19
"Hyn oll," meddai Dafydd, "a ysgrifennwyd gan law yr ARGLWYDD; fy nghyfrifoldeb i oedd deall sut yr oedd pob cynllun yn gweithio."
20
Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon, "Bydd yn gryf a dewr, a dechrau ar y gwaith; paid ag ofni na digalonni, oherwydd y mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda thi; ni fydd yn cefnu arnat na'th adael cyn iti orffen y cyfan sy'n angenrheidiol at wasanaeth tu375?'r ARGLWYDD.
21
Dyma ddosbarth-iadau'r offeiriaid a'r Lefiaid ar gyfer holl wasanaeth tu375? Dduw. Trwy gydol y gwaith fe fydd pob crefftwr ewyllysgar gyda thi, a bydd y swyddogion a'r holl bobl yn barod i ufuddhau iti."
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29