bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Chronicles 25
1 Chronicles 25
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 26 →
1
Dewisodd Dafydd a'r swyddogion feibion Asaff, Heman a Jeduthun ar gyfer y gwaith o broffwydo thelynau, nablau a symbalau. Dyma restr o'r dynion a etholwyd ar gyfer y gwaith.
2
O feibion Asaff: Saccur, Joseff, Nethaneia ac Asarela. Yr oedd meibion Asaff o dan gyfarwyddyd Asaff, a oedd yn proffwydo mewn ufudd-dod i'r brenin.
3
O Jeduthun, meibion Jeduthun: Gedaleia, Seri, Jesaia, Simei, Hasabeia a Matitheia, chwech, o dan gyfarwyddyd eu tad Jeduthun, a oedd yn proffwydo ar y delyn er mawl a chlod i'r ARGLWYDD.
4
O Heman, meibion Heman: Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-eser, Josbecasa, Malothi, Hothir a Mahasioth.
5
Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Heman, gweledydd y brenin, gan fod Duw wedi addo ei ddyrchafu, ac wedi rhoi iddo bedwar ar ddeg o feibion a thair merch.
6
Yr oedd y rhain i gyd o dan gyfarwyddyd eu tad yn canu yn nhu375?'r ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, tra oedd Asaff, Jeduthun a Heman o dan gyfarwyddyd y brenin.
7
Y cyfanrif, gan gynnwys eu brodyr a oedd wedi eu hyfforddi sut i ganu i'r ARGLWYDD ac wedi meistroli'r grefft, oedd dau gant wyth deg ac wyth.
8
Bwriasant goelbrennau ynglu375?n 'u dyletswyddau, ifanc a hen, athro a disgybl fel ei gilydd.
9
Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Joseff yr Asaffiad, ef a'i feibion a'i frodyr, deuddeg. Yr ail ar Gedaleia, ef a'i frodyr a'i feibion, deuddeg.
10
Y trydydd ar Saccur, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
11
Y pedwerydd ar Isri, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
12
Y pumed ar Nethaneia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
13
Y chweched ar Bucceia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
14
Y seithfed ar Jesarela, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
15
Yr wythfed ar Jesaia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
16
Y nawfed ar Mataneia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
17
Y degfed ar Simei, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
18
Yr unfed ar ddeg ar Asareel, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
19
Y deuddegfed ar Hasabeia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
20
Y trydydd ar ddeg ar Subael, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
21
Y pedwerydd ar ddeg ar Matitheia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
22
Y pymthegfed ar Jerimoth, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
23
Yr unfed ar bymtheg ar Hananeia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
24
Yr ail ar bymtheg ar Josbecasa, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
25
Y deunawfed ar Hanani, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
26
Y pedwerydd ar bymtheg ar Malothi, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
27
Yr ugeinfed ar Eliatha, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
28
Yr unfed ar hugain ar Hothir, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
29
Yr ail ar hugain ar Gidalti, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
30
Y trydydd ar hugain ar Mahasioth, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
31
Y pedwerydd ar hugain ar Romamti-eser, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29