bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Chronicles 5
1 Chronicles 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 6 →
1
Dyma feibion Rueben, cyntafanedig Israel. (Ef yn wir oedd y cyntafanedig, ond am iddo halogi gwely ei dad rhoddwyd ei enedigaeth-fraint i feibion Joseff, fab Israel,
2
ac felly ni restrir yr achau yn l yr enedigaeth-fraint. Er bod Jwda wedi rhagori ar ei frodyr, ac arweinydd wedi tarddu ohono, Joseff a gafodd yr enedigaeth-fraint.)
3
Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Enoch, Palu, Hesron, Carmi.
4
Meibion Joel: Semaia ei fab, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau,
5
Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau,
6
Beera ei fab yntau a gaethgludodd Tiglath-pileser brenin Asyria; ef oedd pennaeth y Reubeniaid.
7
Dyma'i frodyr yn l eu teuluoedd ac yn l achau eu cenedlaethau: Jeiel y pennaeth, Sechareia, Bela fab Asas, fab Sema, fab Joel.
8
Bu'r rhain yn byw yn Aroer a chyn belled Nebo a Baal-meon.
9
Tua'r dwyrain yr oedd eu tir yn cyrraedd at ymylon yr anialwch sy'n ymestyn o afon Ewffrates, oherwydd yr oedd eu hanifeiliaid wedi cynyddu yng ngwlad Gilead.
10
Yn ystod teyrnasiad Saul, aethant i ryfel yn erbyn yr Hagariaid a'u trechu, a byw yn eu pebyll trwy holl ddwyrain Gilead.
11
Dyma feibion Gad oedd yn byw nesaf atynt yng ngwlad Basan hyd at Salcha: Joel y pennaeth,
12
Saffam yr ail, Jaanai, Saffat.
13
Eu brodyr hwy o du375? eu hynafiaid: Michael, Mesulam, Seba, Jorai, Jacan, Sa, Heber, saith.
14
Meibion Abihail: Ben-huri, Ben-jaroa, Ben-gilead, Ben-michael, Ben-jesisai, Ben-jahdo, Ben-bus.
15
Ahi fab Abdiel, fab Guni, oedd y penteulu.
16
Yr oeddent hwy yn byw yn Gilead ac ym mhentrefi Basan, a thrwy holl gytir Saron o un terfyn i'r llall.
17
Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn l eu hachau yn nyddiau Jotham brenin Jwda a Jeroboam brenin Israel.
18
Ymysg meibion Reuben a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse yr oedd pedair mil a deugain, saith gant a thrigain o wu375?r cryfion yn cario tarian a chleddyf ac yn tynnu bwa; yr oeddent wedi dysgu ymladd, ac yn barod i fynd allan i ryfel.
19
Buont yn ymladd yn erbyn yr Hagariaid, Jetur, Neffis, a Nodab.
20
Fe gawsant help yn eu herbyn, a gorchfygu'r Hagariaid a phawb oedd gyda hwy, oherwydd iddynt alw ar Dduw yn y frwydr ac iddo yntau wrando arnynt am eu bod yn ymddiried ynddo.
21
Cymerasant o'u hanifeiliaid yn ysbail: hanner can mil o'u camelod, hanner can mil a dau gant o ddefaid, dwy fil o asynnod, a hefyd can mil o bobl.
22
(Am mai rhyfel Duw oedd hwn, yr oedd llawer wedi marw o'u clwyfau.) A buont yn byw yno yn eu lle hyd gyfnod y gaethglud.
23
Yr oedd hanner llwyth Manasse yn byw yn y tir rhwng Basan, Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon, ac yr oedd llawer ohonynt.
24
Y rhain oedd eu pennau-teuluoedd: Effer, Isi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, Jadiel; gwu375?r blaenllaw ac enwog oedd y pennau-teuluoedd hyn.
25
Ond buont yn anffyddlon i Dduw eu hynafiaid, a phuteinio gyda duwiau pobl y wlad yr oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.
26
Felly anogodd Duw Israel Pul, hynny yw Tiglath-pileser brenin Asyria, i fynd 'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse i gaethglud. Aeth yntau hwy i Hala, Habor, Hara ac afon Gosan, ac yno y maent hyd heddiw.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29