bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Chronicles 11
1 Chronicles 11
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 12 →
1
Daeth holl Israel at Ddafydd i Hebron a dweud wrtho, "Edrych, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni.
2
Gynt, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn l wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD dy Dduw wrthyt, 'Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog arnynt.'"
3
Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth Dafydd gyfamod hwy yno gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel, yn l gair yr ARGLWYDD trwy Samuel.
4
Pan aeth Dafydd a holl Israel i Jerwsalem (hynny yw, Jebus, lle'r oedd y Jebusiaid, trigolion y wlad, yn byw)
5
dywedodd pobl Jebus wrth Ddafydd, "Ni chei ddod i mewn yma." Er hynny, fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd,
6
a dywedodd, "Caiff y cyntaf i daro'r Jebusiaid ei wneud yn ben swyddog." Y cyntaf i fynd i fyny oedd Joab fab Serfia; felly cafodd ei wneud yn ben.
7
Yna fe ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, ac am hynny fe'i gelwir yn Ddinas Dafydd.
8
Adeiladodd y ddinas oddi amgylch o'r Milo yn gylch cyfan, tra oedd Joab yn adnewyddu gweddill y ddinas.
9
Cynyddodd Dafydd fwyfwy oherwydd bod ARGLWYDD y Lluoedd gydag ef.
10
Dyma benaethiaid Dafydd, a aeth yn fwy a mwy nerthol gydag ef yn ystod ei deyrnasiad, ac a ymunodd gyda holl Israel i'w wneud ef yn frenin ar Israel yn l gair yr ARGLWYDD.
11
Dyma restr y gwroniaid oedd gan Ddafydd. Jasobeam fab Hachmoni oedd capten y Deg ar Hugain; chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben tri chant o wu375?r a laddodd ar un tro.
12
Y nesaf ato ef ymysg y tri gwron oedd Eleasar fab Dodo, yr Ahohiad;
13
bu ef gyda Dafydd yn Pasdammim, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, pan ymgasglodd y Philistiaid yno i ryfel ac y ffodd y bobl rhagddynt.
14
Ond daliodd ef ei dir yng nghanol y llain, a'i amddiffyn a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.
15
Aeth tri o'r Deg ar Hugain o benaethiaid i lawr at Ddafydd i'r graig ger ogof Adulam, pan oedd mintai o Philistiaid yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
16
Yr oedd Dafydd ar y pryd yn y gaer, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.
17
Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, "O na chawn ddiod o ddu373?r o bydew Bethlehem, sydd ger y porth!"
18
Ar hynny, rhuthrodd y tri trwy wersyll y Philistiaid, codi du373?r o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n l at Ddafydd. Eto, ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,
19
a dweud, "Na ato Duw i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed y gwu375?r hyn a fentrodd eu heinioes i ddod ag ef i mi?" Felly gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y tri gwron.
20
Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o wu375?r, a lladdodd hwy gan ennill enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.
21
Yr oedd ef yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain, ac yn gapten arnynt; ond nid oedd i'w gymharu 'r Tri.
22
Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn u373?r dewr ac aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr o Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.
23
Lladdodd Eifftiwr, cawr o bum cufydd, er bod gan hwnnw waywffon fel carfan gwehydd yn ei law, ac yntau'n ymosod dim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd 'i waywffon ei hun.
24
Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.
25
Yr oedd yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain, ond nid oedd i'w gymharu 'r Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.
26
Y rhain oedd y gwroniaid: Asahel brawd Joab, Elhanan fab Dodo o Fethlehem,
27
Samma yr Harodiad, Heles y Peloniad.
28
Ira fab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anathothiad,
29
Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad,
30
Maharai y Netoffathiad, Heled fab Baana y Netoffathiad,
31
Itai fab Ribai o Gibea'r Benjaminiaid, Benaia y Pirathoniad,
32
Hurai o Nahale-gaas, Abiel yr Arbathiad,
33
Asmafeth y Bahrumiad, Eliahba y Saalboniad,
34
meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan fab Sage yr Harariad,
35
Ahiam fab Sachar yr Harariad, Eliffal fab Ur,
36
Heffer y Mecherathiad, Aheia y Peloniad,
37
Hesro y Carmeliad, Naarai fab Esbai,
38
Joel brawd Nathan, Mibhar Haggeri,
39
Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia),
40
Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,
41
Ureia yr Hethiad, Sabad fab Ahlai,
42
Adina fab Sisa y Reubeniad (pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain),
43
Hanan fab Maacha, Josaffat y Mithriad,
44
Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel meibion Hothan yr Aroeriad,
45
Jedidael fab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad,
46
Eliel y Mahafiad, Jeribai a Josafia, meibion Elnaam, Ithma y Moabiad,
47
Eliel, Obed, a Jasiel y Mesobaiad.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29