bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Chronicles 16
1 Chronicles 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 17 →
1
Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw.
2
Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD,
3
a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wu375?r a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin.
4
Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goffu a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel:
5
Asaff yn gyntaf, ac ar ei l ef Sechareia, Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia ac Obed-edom. Yr oedd gan Jeiel nablau a thelynau, ac yr oedd Asaff yn canu'r symbalau.
6
Yr oedd yr offeiriaid Benaia a Jahasiel i chwythu trwmpedau yn barhaus o flaen arch cyfamod Duw.
7
Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD:
8
Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
9
Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau.
10
Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
11
Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser.
12
Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
13
chwi ddisgynyddion Israel, ei was, chwi blant Jacob, ei etholedig.
14
Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
15
Cofiwch ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
16
sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac,
17
yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18
a dweud, "I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth."
19
Pan oeddech yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
20
yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill,
21
ni adawodd i neb eich darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,
22
a dweud, "Peidiwch chyffwrdd 'm heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi."
23
Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.
24
Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
25
Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
26
Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
27
Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a llawenydd yn ei fangre ef.
28
Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
29
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
30
Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear; yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir.
31
Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear, a dywedent ymhlith y cenhedloedd, "Y mae'r ARGLWYDD yn frenin."
32
Rhued y mr a'r cyfan sydd ynddo, llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.
33
Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llawen o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.
34
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.
35
Dywedwch, "Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth; cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd, inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd ac ymhyfrydu yn dy fawl."
36
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, "Amen", a moli'r ARGLWYDD.
37
A gadawodd Dafydd Asaff a'i frodyr o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD i wasanaethu yno'n barhaol yn l gofynion pob dydd.
38
Gadawodd yno hefyd Obed-edom gyda'i wyth brawd a thrigain; Obed-edom fab Jeduthun, a Hosa, oedd i fod yn borthorion.
39
Ond gadawodd ef Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD yn yr uchelfa yn Gibeon,
40
i aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn gyson fore a hwyr fel sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, a orchmynnodd ef i Israel.
41
Gyda hwy yr oedd Heman, Jeduthun a'r rhai eraill oedd wedi eu hethol a'u henwi i foliannu'r ARGLWYDD am fod ei gariad hyd byth.
42
Heman a Jeduthun oedd yn gofalu am yr trwmpedau a'r symbalau a'r offerynnau cerdd cysegredig ar gyfer y cantorion. A meibion Jeduthun oedd yn gofalu am y porth.
43
Yna aeth pawb adref a dychwelodd Dafydd i gyfarch ei deulu.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29