bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Chronicles 15
1 Chronicles 15
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 16 →
1
Adeiladodd Dafydd dai iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a pharatoi lle i arch Duw a gosod pabell iddi.
2
Yna dywedodd, "Nid oes neb i gario arch Duw ond y Lefiaid, oherwydd hwy a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD i'w chario ac i'w wasanaethu ef am byth."
3
Cynullodd Dafydd Israel gyfan i Jerwsalem, i ddod ag arch yr ARGLWYDD i fyny i'r lle yr oedd wedi ei baratoi iddi.
4
Casglodd feibion Aaron a'r Lefiaid:
5
o feibion Cohath, Uriel y pennaeth a chant ac ugain o'i frodyr;
6
o feibion Merari, Asaia y pennaeth a dau gant ac ugain o'i frodyr;
7
o feibion Gersom, Joel y pennaeth a chant a thri deg o'i frodyr;
8
o feibion Elisaffan, Semaia y pennaeth a dau gant o'i frodyr;
9
o feibion Hebron, Eliel y pennaeth a phedwar ugain o'i frodyr;
10
o feibion Ussiel, Amminadab y pennaeth a chant a deuddeg o'i frodyr.
11
Yna galwodd Dafydd am Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, Uriel, Asaia, Joel, Semaia, Eliel ac Amminadab,
12
a dywedodd wrthynt, "Chwi yw pennau-teuluoedd y Lefiaid. Sancteiddiwch eich hunain, chwi a'ch brodyr, i fynd ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i'r lle a baratoais iddi.
13
Am nad oeddech chwi gyda ni y tro cyntaf, ac na fuom ninnau yn ymgynghori ag ef ynglu375?n 'i drefn, fe dorrodd yr ARGLWYDD ein Duw allan i'n herbyn."
14
Felly sancteiddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain i ddod ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i fyny.
15
Ac fe gludodd y Lefiaid arch Duw ar eu hysgwyddau pholion, fel y gorchmynnodd Moses yn l gair yr ARGLWYDD.
16
Rhoddodd Dafydd orchymyn i benaethiaid y Lefiaid osod eu brodyr yn gerddorion i ganu mawl yn llawen gydag offer cerdd, sef nablau, telynau a symbalau.
17
Felly etholodd y Lefiaid Heman fab Joel ac, o'i frodyr, Asaff fab Berecheia; a hefyd Ethnan fab Cusaia o blith eu brodyr, meibion Merari.
18
A chyda hwy eu brodyr o'r ail radd: y porthorion Sechareia, Jaasiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom a Jehiel.
19
Heman, Asaff ac Ethan, y cerddorion, oedd i seinio'r symbalau pres.
20
Sechareia, Asiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Maaseia a Benaia oedd i ganu nablau ar Alamoth.
21
Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom, Jehiel ac Asaseia oedd i ganu'r telynau ac arwain ar Seminith.
22
Chenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd yn gofalu am y canu, ac ef oedd yn ei ddysgu i eraill am ei fod yn hyddysg ynddo.
23
Berecheia ac Elcana oedd i fod yn borthorion i'r arch.
24
Sebaneia, Jehosaffat, Nathaneel, Amisai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yr offeiriaid, oedd i ganu'r trwmpedau o flaen arch Duw; yr oedd Obed-edom a Jeheia hefyd i fod yn borthorion i'r arch.
25
Felly aeth Dafydd a henuriaid Israel a phenaethiaid y miloedd i ddod ag arch cyfamod yr ARGLWYDD i fyny o du375? Obed-edom mewn llawenydd.
26
Ac am i Dduw gynorthwyo'r Lefiaid oedd yn cario arch cyfamod yr ARGLWYDD, aberthasant saith o fustych a saith o hyrddod.
27
Yr oedd Dafydd wedi ei wisgo mewn lliain main, ac felly hefyd yr holl Lefiaid oedd yn cario'r arch, a'r cerddorion a'u pennaeth Chenaneia. Yr oedd gan Ddafydd effod liain hefyd.
28
Yr oedd holl Israel yn hebrwng arch cyfamod yr ARGLWYDD banllefau a sain utgorn, ac yn canu trwmpedau, symbalau, nablau a thelynau.
29
Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy'r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn dawnsio ac yn gorfoleddu, a dirmygodd ef yn ei chalon.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29