bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Exodus 19
Exodus 19
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 20 →
1
Ar ddiwrnod cyntaf y trydydd mis wedi i'r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sinai.
2
Wedi iddynt ymadael Reffidim a chyrraedd anialwch Sinai, cododd Israel wersyll yno gyferbyn 'r mynydd.
3
Aeth Moses i fyny at fynydd Duw, a galwodd yr ARGLWYDD arno o'r mynydd a dweud, "Fel hyn y dywedi wrth dylwyth Jacob ac wrth bobl Israel:
4
'Fe welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid, ac fel y codais chwi ar adenydd eryrod a'ch cludo ataf fy hun.
5
Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi'r ddaear i gyd.
6
Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd.' Dyma'r geiriau yr wyt i'w llefaru wrth bobl Israel."
7
Felly aeth Moses i alw henuriaid y bobl, a gosod o'u blaen yr holl eiriau hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.
8
Atebodd y bobl i gyd yn unfryd, "Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD." Yna adroddodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD.
9
Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Edrych, fe ddof atat mewn cwmwl tew er mwyn i'r bobl fy nghlywed yn llefaru wrthyt ac ymddiried ynot am byth."
10
Pan fynegodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho hefyd, "Dos at y bobl, a chysegra hwy heddiw ac yfory; boed iddynt olchi eu dillad,
11
a bod yn barod erbyn y trydydd dydd, oherwydd ar y trydydd dydd fe ddaw'r ARGLWYDD i lawr ar Fynydd Sinai yng ngolwg yr holl bobl.
12
Gosod ffin o amgylch y mynydd, a dywed, 'Gwyliwch rhag i chwi fynd i fyny i'r mynydd na chyffwrdd 'i ffin; oherwydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd 'r mynydd, fe'i rhoddir i farwolaeth
13
trwy ei labyddio neu ei saethu, ond peidied neb 'i gyffwrdd 'i law. Prun bynnag ai dyn ai anifail ydyw, ni chaiff fyw.' Nid ydynt i ddod i fyny i'r mynydd nes y cenir yn hir ar y corn hwrdd."
14
Yna aeth Moses i lawr o'r mynydd at y bobl, a'u cysegru; a golchasant eu dillad.
15
Dywedodd wrthynt, "Byddwch barod erbyn y trydydd dydd, a pheidiwch mynd yn agos at wraig."
16
Ar fore'r trydydd dydd, daeth taranau a mellt a chwmwl tew ar y mynydd, ac yr oedd su373?n yr utgorn mor gryf nes i'r holl bobl oedd yn y gwersyll ddychryn.
17
Yna daeth Moses 'r bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, ac aethant i sefyll wrth odre'r mynydd.
18
Yr oedd Mynydd Sinai yn fwg i gyd, oherwydd i'r ARGLWYDD ddod i lawr arno mewn tn; yr oedd y mwg yn codi fel mwg ffwrn, a'r mynydd i gyd yn crynu drwyddo.
19
Wrth i su373?n yr utgorn gryfhau, llefarodd Moses, ac atebodd Duw ef yn y daran.
20
Yna disgynnodd yr ARGLWYDD ar ben Mynydd Sinai; galwodd Moses i ben y mynydd, ac aeth yntau i fyny.
21
Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos i lawr a rhybuddia'r bobl, rhag iddynt frysio i rythu ar yr ARGLWYDD ac i lawer ohonynt farw.
22
Rhaid i'r offeiriaid sy'n nesu at yr ARGLWYDD hefyd eu cysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro."
23
Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Ni all y bobl ddod i fyny i Fynydd Sinai, oherwydd iti ein rhybuddio i osod ffin o amgylch y mynydd a'i gysegru."
24
Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos i lawr, a thyrd ag Aaron i fyny gyda thi, ond paid gadael i'r offeiriaid a'r bobl ruthro i fyny at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro."
25
Felly aeth Moses i lawr at y bobl a dweud hyn wrthynt.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40