bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Exodus 26
Exodus 26
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 27 →
1
"Gwna'r tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwno'n gywrain arnynt.
2
Bydd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
3
Bydd pump o'r llenni wedi eu cydio wrth ei gilydd, a'r pump arall hefyd wedi eu cydio wrth ei gilydd.
4
Gwna ddolennau glas ar hyd ymyl y llen sydd ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
5
Gwna hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, gyda'r dolennau gyferbyn 'i gilydd.
6
Gwna hefyd hanner cant o fachau aur, a chydia'r llenni wrth ei gilydd 'r bachau er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.
7
"Gwna un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.
8
Bydd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
9
Cydia hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, a gwna'r chweched yn ddwbl dros wyneb y babell.
10
Gwna hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
11
"Gwna hanner cant o fachau pres a'u rhoi yn y dolennau i ddal y babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith.
12
Bydd yr hyn sydd dros ben o lenni'r babell, sef yr hanner llen, yn hongian y tu l i'r tabernacl.
13
Ar y ddwy ochr bydd y cufydd o lenni'r babell sydd dros ben yn hongian dros y tabernacl i'w orchuddio.
14
Gwna do i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod.
15
"Gwna hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia,
16
pob un ohonynt yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,
17
a dau denon ym mhob ffrm i'w cysylltu 'i gilydd; gwna hyn i holl fframiau'r tabernacl.
18
Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffrm ar yr ochr ddeheuol,
19
a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffrm ar gyfer ei dau denon;
20
ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffrm
21
a deugain troed arian, dau dan bob ffrm;
22
yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwna chwe ffrm,
23
a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,
24
wedi eu cysylltu yn y pen a'r gwaelod bach; bydd y ddwy ffrm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.
25
Felly bydd wyth ffrm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrm.
26
"Gwna hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,
27
pump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.
28
Bydd y bar sydd ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.
29
Yr wyt i oreuro'r fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt; yr wyt hefyd i oreuro'r barrau.
30
Yr wyt i adeiladu'r tabernacl yn l y cynllun a ddangoswyd iti ar y mynydd.
31
"Gwna orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwno'n gywrain arno.
32
Gosod ef bachau aur ar bedair colofn o goed acasia, wedi eu goreuro ac yn sefyll ar bedwar troed arian.
33
Rho'r gorchudd ar y bachau, a chludo arch y dystiolaeth oddi tano; bydd y gorchudd yn gwahanu rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiaf.
34
Rho'r drugareddfa ar arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiaf.
35
Gosod y bwrdd y tu allan i'r gorchudd, ar ochr ogleddol y tabernacl, a'r canhwyllbren gyferbyn 'r bwrdd, ar yr ochr ddeheuol.
36
"Ar gyfer drws y babell gwna len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio.
37
Ar gyfer y llen gwna bum colofn o goed acasia wedi eu goreuro, a bachau aur, a llunia o bres bum troed ar eu cyfer.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40