bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Exodus 7
Exodus 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 8 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Edrych, yr wyf yn dy wneud fel Duw i Pharo, a bydd Aaron dy frawd yn broffwyd iti.
2
Yr wyt i fynegi'r cyfan yr wyf yn ei orchymyn i ti, a bydd Aaron dy frawd yn dweud wrth Pharo am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.
3
Byddaf finnau'n caledu calon Pharo; ac er imi amlhau fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft,
4
ni fydd ef yn gwrando arnoch. Yna byddaf yn gosod fy llaw ar yr Aifft ac yn rhyddhau fy mhobl Israel yn lluoedd o wlad yr Aifft, trwy weithredoedd nerthol o farn.
5
Bydd yr Eifftiaid yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan estynnaf fy llaw yn erbyn yr Aifft a rhyddhau'r Israeliaid o'u plith."
6
Gwnaeth Moses ac Aaron yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.
7
Pan lefarodd Moses ac Aaron wrth Pharo, yr oedd Moses yn bedwar ugain oed ac Aaron yn dair a phedwar ugain.
8
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
9
"Os bydd Pharo'n dweud wrthych am wneud rhyfeddod, yr wyt ti, Moses, i ddweud wrth Aaron, 'Cymer dy wialen a'i thaflu ar lawr o flaen Pharo, ac fe dry'n sarff.'"
10
Felly, aeth Moses ac Aaron at Pharo a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.
11
Taflodd Aaron ei wialen o flaen Pharo a'i weision, ac fe drodd yn sarff. Yna anfonodd Pharo am y gwu375?r doeth a'r dewiniaid, ac yr oeddent hwythau, swynwyr yr Aifft, hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin.
12
Taflodd pob un ei wialen, a throdd pob gwialen yn sarff; ond llyncodd gwialen Aaron eu gwiail hwy.
13
Er hynny, caledodd calon Pharo ac ni wrandawodd arnynt, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
14
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Y mae calon Pharo wedi caledu, ac y mae'n gwrthod rhyddhau'r bobl.
15
Dos at Pharo yn y bore, wrth iddo fynd tua'r afon; aros amdano ar lan y Neil, a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff.
16
Dywed wrtho, 'Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi fy anfon atat i ddweud, "Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli yn yr anialwch"; ond hyd yn hyn nid wyt wedi ufuddhau iddo.'
17
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma sut y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD: 'r wialen sydd yn fy llaw byddaf yn taro du373?r y Neil, ac fe dry'n waed.
18
Bydd y pysgod ynddi yn marw, a'r afon yn drewi, a bydd yn ffiaidd i'r Eifftiaid yfed du373?r ohoni."
19
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Cymer dy wialen ac estyn dy law dros ddyfroedd yr Aifft, dros ei ffrydiau a'i hafonydd, dros ei llynnoedd a'i chronfeydd du373?r, er mwyn iddynt droi'n waed.' Bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, hyd yn oed yn y cawgiau o bren a charreg."
20
Gwnaeth Moses ac Aaron fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt. Yng ngu373?ydd Pharo a'i weision, cododd Aaron y wialen a tharo du373?r y Neil, ac fe droes yr holl ddu373?r oedd ynddi yn waed.
21
Bu farw'r pysgod oedd ynddi, ac yr oedd yr afon yn drewi cymaint fel na allai'r Eifftiaid yfed du373?r ohoni; ac yr oedd gwaed trwy holl wlad yr Aifft.
22
Ond yr oedd swynwyr yr Aifft hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin; felly caledodd calon Pharo, ac ni fynnai wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
23
Troes Pharo a mynd i mewn i'w du375?, heb ystyried y peth ymhellach.
24
Am nad oeddent yn medru yfed y du373?r o'r Neil, bu'r holl Eifftiaid yn cloddio gerllaw'r afon am ddu373?r i'w yfed.
25
Parhaodd hyn am saith diwrnod wedi i'r ARGLWYDD daro'r Neil.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40