bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Exodus 5
Exodus 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 6 →
1
Yna aeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt gadw gu373?yl i mi yn yr anialwch.'"
2
Dywedodd Pharo, "Pwy yw yr ARGLWYDD? Pam y dylwn i ufuddhau iddo a gollwng Israel yn rhydd? Nid wyf yn adnabod yr ARGLWYDD, ac felly nid wyf am ollwng Israel yn rhydd."
3
Yna dywedasant, "Y mae Duw'r Hebreaid wedi cyfarfod ni. Gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD, ein Duw, rhag iddo ein taro haint neu chleddyf."
4
Ond dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, "Moses ac Aaron, pam yr ydych yn denu'r bobl oddi wrth eu gwaith? Ewch yn l at eich gorchwylion."
5
Dywedodd Pharo hefyd, "Edrychwch, y maent erbyn hyn yn fwy niferus na thrigolion y wlad, ac yr ydych chwi am atal eu gorchwylion!"
6
Y diwrnod hwnnw, rhoddodd Pharo orchymyn i feistri gwaith y bobl a'u swyddogion,
7
"Peidiwch rhoi gwellt mwyach i'r bobl i wneud priddfeini; gadewch iddynt fynd a chasglu gwellt iddynt eu hunain.
8
Ond gofalwch eu bod yn cynhyrchu'r un nifer o briddfeini chynt, a pheidiwch lleihau'r nifer iddynt. Y maent yn ddiog, a dyna pam y maent yn gweiddi am gael mynd i aberthu i'w Duw.
9
Gwnewch y gwaith yn drymach i'r bobl er mwyn iddynt ddal ati i weithio, a pheidiwch gwrando ar eu celwydd."
10
Aeth meistri gwaith a swyddogion y bobl allan a dweud wrthynt, "Fel hyn y dywed Pharo:
11
'Nid wyf am roi gwellt i chwi mwyach, ond rhaid i chwi eich hunain fynd i geisio gwellt ym mha le bynnag y gallwch ei gael; er hynny, ni fydd dim cwtogi ar eich cynnyrch.'"
12
Felly, bu raid i'r bobl grwydro trwy holl wlad yr Aifft a chasglu sofl yn lle gwellt.
13
Yr oedd y meistri gwaith yn pwyso arnynt gan ddweud, "Gorffennwch y gwaith ar gyfer pob dydd, yn union fel yr oeddech pan oedd gennych wellt."
14
Cafodd y swyddogion a benodwyd gan feistri gwaith Pharo i oruchwylio'r Israeliaid eu curo a'u holi, "Pam na wnaethoch eich dogn o briddfeini heddiw fel cynt?"
15
Yna daeth swyddogion yr Israeliaid 'u cwyn at Pharo, a dweud, "Pam yr wyt yn trin dy weision fel hyn?
16
Nid oes dim gwellt yn cael ei roi i'th weision, ac eto maent yn dweud wrthym am wneud priddfeini! Y mae dy weision yn cael eu curo, ond ar dy bobl di y mae'r bai."
17
Dywedodd yntau, "Am eich bod mor ddiog yr ydych yn dweud, 'Gad inni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.'
18
Yn awr, ewch ymlaen 'ch gwaith; ac er na roddir gwellt i chwi mwyach, bydd raid i chwi gynhyrchu'r un nifer o briddfeini chynt."
19
Pan ddywedwyd nad oeddent i leihau'r nifer o briddfeini oedd i'w cynhyrchu mewn diwrnod, gwelodd swyddogion yr Israeliaid eu bod mewn helynt.
20
Wedi iddynt ymadael Pharo, daeth Moses ac Aaron i'w cyfarfod,
21
a dywedodd y swyddogion wrthynt, "Boed i'r ARGLWYDD edrych arnoch a'ch barnu, am ichwi ein gwneud yn ffiaidd yng ngolwg Pharo a'i weision, a rhoi cleddyf iddynt i'n lladd."
22
Aeth Moses yn l at yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, pam yr wyt wedi peri'r fath helynt i'r bobl hyn? A pham yr anfonaist fi?
23
Oherwydd er pan ddeuthum at Pharo a llefaru yn dy enw, y mae wedi gwneud drwg i'r bobl hyn, ac nid wyt ti wedi gwneud dim o gwbl i achub eu cam."
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40