bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Exodus 33
Exodus 33
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 34 →
1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dos gyda'r bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft, ac ewch i fyny oddi yma i'r wlad y tyngais wrth Abraham, Isaac a Jacob ei rhoi i'th ddisgynyddion.
2
Anfonaf angel o'th flaen, a gyrraf allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
3
Dos i wlad yn llifeirio o laeth a ml, ond ni fyddaf fi'n mynd i fyny gyda thi, rhag i mi dy ddifa ar y ffordd; oherwydd pobl wargaled ydych."
4
Pan glywodd y bobl y newydd drwg hwn, dechreusant alaru, ac ni wisgodd neb ei dlysau,
5
oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, "Dywed wrth bobl Israel,
6
'Pobl wargaled ydych; pe bawn yn mynd i fyny gyda chwi, gallwn eich difa'n ddirybudd. Tyn dy dlysau oddi arnat, ac fe benderfynaf beth i'w wneud thi.'" Felly tynnodd pobl Israel eu tlysau ger Mynydd Horeb.
7
Arferai Moses gymryd pabell a'i gosod y tu allan i'r gwersyll, bellter oddi wrtho, ac fe'i galwodd yn babell y cyfarfod. Yr oedd pob un a fyddai'n ceisio'r ARGLWYDD yn mynd at babell y cyfarfod y tu allan i'r gwersyll.
8
Pan fyddai Moses yn mynd allan at y babell, byddai'r bobl i gyd yn codi a phob un yn sefyll wrth ddrws ei babell ei hun, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn.
9
Pan fyddai Moses yn mynd i mewn i'r babell, byddai colofn o gwmwl yn disgyn ac yn aros wrth y drws, a byddai'r ARGLWYDD yn siarad Moses.
10
Pan welai'r holl bobl y golofn o gwmwl yn aros wrth ddrws y babell, byddai pob un ohonynt yn codi ac yn addoli wrth ddrws ei babell ei hun.
11
Byddai'r ARGLWYDD yn siarad Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad 'i gyfaill. Pan ddychwelai Moses i'r gwersyll, ni fyddai ei was ifanc, Josua fab Nun, yn symud o'r babell.
12
Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Edrych, yr wyt yn dweud wrthyf am ddod 'r bobl hyn i fyny, ond nid wyt wedi rhoi gwybod i mi pwy yr wyt am ei anfon gyda mi. Dywedaist, 'Yr wyf yn dy ddewis di, a chefaist ffafr yn fy ngolwg.'
13
Yn awr, os cefais ffafr yn dy olwg, dangos i mi dy ffyrdd, er mwyn i mi dy adnabod ac aros yn dy ffafr; oherwydd dy bobl di yw'r genedl hon."
14
Atebodd yntau, "Byddaf fi fy hun gyda thi, a rhoddaf iti orffwysfa."
15
Dywedodd Moses wrtho, "Os na fyddi di dy hun gyda mi, paid 'n harwain ni ymaith oddi yma.
16
Oherwydd sut y bydd neb yn gwybod fy mod i a'th bobl wedi cael ffafr yn dy olwg, os na fyddi'n mynd gyda ni? Dyna sy'n fy ngwneud i a'th bobl yn wahanol i bawb arall ar wyneb y ddaear."
17
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Fe wnaf yr hyn a ofynnaist, oherwydd cefaist ffafr yn fy ngolwg, ac yr wyf wedi dy ddewis."
18
Meddai Moses, "Dangos i mi dy ogoniant."
19
Dywedodd yntau, "Gwnaf i'm holl ddaioni fynd heibio o'th flaen, a chyhoeddaf fy enw, ARGLWYDD, yn dy glyw; a dangosaf drugaredd a thosturi tuag at y rhai yr wyf am drugarhau a thosturio wrthynt.
20
Ond," meddai, "ni chei weld fy wyneb, oherwydd ni chaiff neb fy ngweld a byw."
21
Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd, "Bydd lle yn fy ymyl; saf ar y graig,
22
a phan fydd fy ngogoniant yn mynd heibio, fe'th roddaf mewn hollt yn y graig a'th orchuddio 'm llaw nes imi fynd heibio;
23
yna tynnaf ymaith fy llaw, a chei weld fy nghefn, ond ni welir fy wyneb."
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40