bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Exodus 35
Exodus 35
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 36 →
1
Casglodd Moses ynghyd holl gynulliad pobl Israel a dweud wrthynt, "Dyma'r hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneud:
2
Chwe diwrnod y gweithiwch, ond bydd y seithfed dydd yn gysegredig, yn Saboth o orffwys i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd hwnnw.
3
Peidiwch hyd yn oed chynnau tn yn eich cartrefi ar y dydd Saboth."
4
Dywedodd Moses wrth holl gynulliad pobl Israel, "Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD:
5
Cymerwch o'r hyn sydd gennych yn offrwm i'r ARGLWYDD; y mae pob un sy'n dymuno rhoi offrwm i'r ARGLWYDD i roi aur, arian ac efydd;
6
sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
7
crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
8
olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;
9
meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.
10
"Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD:
11
y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed;
12
yr arch a'i pholion, y drugareddfa, y gorchudd;
13
y bwrdd a'i bolion a'i holl lestri, a'r bara gosod;
14
y canhwyllbren ar gyfer y goleuni, ei lestri a'i lampau, a'r olew ar gyfer y golau;
15
allor yr arogldarth a'i pholion, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd, gorchudd drws y tabernacl;
16
allor y poethoffrwm a'r rhwyll bres, ei pholion a'i holl lestri, y noe a'i throed;
17
llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed, a gorchudd drws y cyntedd;
18
hoelion y tabernacl a'r cyntedd a'u rhaffau;
19
gwisgoedd wedi eu gwno'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad ac i'w feibion, i wasanaethu fel offeiriaid."
20
Yna aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith oddi wrth Moses,
21
a daeth pob un yr oedd ei galon yn ei gyffroi, a'i ysbryd yn ei ennyn, ag offrwm i'r ARGLWYDD i'w ddefnyddio ym mhabell y cyfarfod ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y gwisgoedd cysegredig.
22
Felly daethant, yn wu375?r a gwragedd, a chynnig o'u gwirfodd freichledau, clustlysau, modrwyau, cadwynau a thlysau aur o bob math; yr oedd pawb yn cyflwyno aur yn offrwm i'r ARGLWYDD.
23
Yr oedd pob un a chanddo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod, yn dod hwy.
24
Yr oedd pob un a allai gyflwyno offrwm o arian neu bres yn dod ag ef i'r ARGLWYDD; ac yr oedd pob un a chanddo goed acasia addas ar gyfer y gwaith yn dod hwy.
25
Yr oedd pob gwraig fedrus yn nyddu 'i dwylo, ac yn dod 'i gwaith o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main.
26
Yr oedd pob gwraig a fedrai nyddu blew geifr yn gwneud hynny.
27
Daeth yr arweinwyr meini onyx, meini i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg,
28
perlysiau ac olew ar gyfer y lamp ac ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd.
29
Pan fyddai gu373?r neu wraig trwy holl Israel yn dymuno dod ag unrhyw beth ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, byddai'n dod 'i offrwm i'r ARGLWYDD o'i wirfodd.
30
Dywedodd Moses wrth bobl Israel: "Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda,
31
ac wedi ei lenwi ag ysbryd Duw, ac doethineb a deall, gwybodaeth hefyd a phob rhyw ddawn,
32
er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain, a gweithio ag aur, arian a phres,
33
a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith.
34
Hefyd, ysbrydolodd yr ARGLWYDD ef ac Aholab fab Achisamach o lwyth Dan i ddysgu eraill.
35
Llanwodd hwy 'r ddawn i wneud pob math o waith crefftus a chywrain a wneir gan saer neu grefftwr, neu gan un sy'n brodio sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, neu gan un sy'n gwau.
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 36 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40