bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Exodus 30
Exodus 30
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 31 →
1
"Gwna allor o goed acasia ar gyfer llosgi arogldarth.
2
Bydd yn sgwr, yn gufydd o hyd a chufydd o led a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.
3
Goreura hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwna ymyl aur o'i hamgylch.
4
Gwna hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.
5
Gwna'r polion o goed acasia, a goreura hwy.
6
Gosod yr allor o flaen y gorchudd sydd wrth arch y dystiolaeth, ac o flaen y drugareddfa ar yr arch; yno byddaf yn cyfarfod thi.
7
Bydd Aaron yn llosgi arogldarth peraidd arni bob bore wrth baratoi'r lampau,
8
ac eto wrth oleuo'r lampau gyda'r hwyr; bydd hwn yn arogldarth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD dros y cenedlaethau.
9
Peidiwch ag offrymu arni arogldarth halogedig, na phoethoffrwm, na bwydoffrwm; a pheidiwch thywallt diodoffrwm arni.
10
Bydd Aaron yn gwneud cymod ar ei chyrn unwaith y flwyddyn dros y cenedlaethau, a bydd yn ei wneud gwaed yr aberth dros bechod a offrymir er cymod; y mae'n gysegredig iawn i'r ARGLWYDD."
11
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
12
"Pan fyddwch yn gwneud cyfrifiad o bobl Israel, y mae pob un i roi iawn am ei fywyd i'r ARGLWYDD, rhag bod pla yn eu plith wrth wneud y cyfrifiad.
13
Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad i roi'n offrwm i'r ARGLWYDD hanner sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
14
Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad sy'n ugain oed neu'n hu375?n i roi offrwm i'r ARGLWYDD.
15
Nid yw'r cyfoethog i roi mwy, na'r tlawd i roi llai, na hanner sicl, wrth i chwi roi offrwm i'r ARGLWYDD er cymod dros eich bywyd.
16
Cymer arian y cymod oddi wrth bobl Israel a'i roi at wasanaeth pabell y cyfarfod; bydd yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD, er mwyn i chwi wneud cymod dros eich bywyd."
17
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18
"Gwna noe bres, throed pres iddi, i ymolchi; a gosod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi du373?r ynddi
19
i Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.
20
Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agosu at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn tn i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi 'r du373?r, rhag iddynt farw.
21
Y maent i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddynt farw; bydd hon yn ddeddf i'w chadw am byth gan Aaron a'i ddisgynyddion dros y cenedlaethau."
22
Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses,
23
"Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd,
24
a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden.
25
Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio.
26
Eneinia ag ef babell y cyfarfod ac arch y dystiolaeth,
27
y bwrdd a'i holl lestri, y canhwyllbren a'i holl lestri, allor yr arogldarth,
28
allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.
29
Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda hwy hefyd yn gysegredig.
30
Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid.
31
Yna dywed wrth bobl Israel, 'Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau.
32
Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych.
33
Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.'"
34
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd 'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un,
35
a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru halen i'w wneud yn bur a chysegredig.
36
Cura beth ohono'n fn a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod thi; bydd yn gysegredig iawn gennych.
37
Peidiwch gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD.
38
Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl."
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40