bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Exodus 39
Exodus 39
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 40 →
1
Gwnaethant wisgoedd cywrain o sidan glas, porffor ac ysgarlad ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr; gwnaethant y gwisgoedd cysegredig i Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
2
Gwnaeth yr effod o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
3
Curodd yr aur yn ddolennau tenau a'u torri'n stribedi i'w plethu'n gywrain i mewn i'r sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac i'r lliain main.
4
Gwnaethant ar gyfer yr effod ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr.
5
Yr oedd y gwregys arni wedi ei wno'n gywrain, ac o'r un deunydd 'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu; felly'r oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6
Cymerasant feini onyx a'u trin, a'u gosod mewn edafwaith o aur, a naddu arnynt enwau meibion Israel, fel y bydd gemydd yn naddu sl.
7
Gosododd hwy ar ysgwyddau'r effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
8
Gwnaeth y ddwyfronneg o grefftwaith cywrain; fe'i gwnaeth, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
9
Yr oedd yn sgwr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
10
Gosodasant ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
11
yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
12
yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
13
yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; yr oeddent i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
14
Yr oedd deuddeg maen wedi eu henwi ar l meibion Israel; yr oedd pob un fel sl ag enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
15
Gwnaethant ar gyfer y ddwyfronneg gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,
16
a hefyd ddau edafwaith aur, a dau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.
17
Rhoddwyd y ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,
18
a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.
19
Yna gwnaethant ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod.
20
Gwnaethant hefyd ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod, ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys.
21
Rhwymasant fachau'r ddwyfronneg wrth fachau'r effod llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22
Gwnaeth fantell yr effod i gyd yn frodwaith o sidan glas,
23
a thwll yn ei chanol, gyda gwnad o'i amgylch, fel a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.
24
Gwnaethant o amgylch godre'r fantell bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain wedi ei nyddu.
25
Gwnaethant hefyd glychau o aur pur,
26
a'u gosod rhwng y pomgranadau o amgylch godre'r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
27
Gwnaethant siacedau wedi eu gwau o liain main ar gyfer Aaron a'i feibion;
28
gwnaethant hefyd benwisg a chapiau, llodrau
29
a gwregys, y cwbl o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad wedi ei frodio; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30
Gwnaethant blt y goron gysegredig o aur pur, ac argraffu arno, fel ar sl, "Sanctaidd i'r ARGLWYDD";
31
a chlymwyd ef ar flaen y benwisg llinyn glas; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
32
Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; ac yr oedd pobl Israel wedi gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
33
Daethant 'r tabernacl at Moses, sef y babell a'i holl lestri, y bachau, y fframiau, y barrau, y colofnau, y traed;
34
y to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod, a'r gorchudd;
35
arch y dystiolaeth a'i pholion a'r drugareddfa;
36
y bwrdd a'i holl lestri, a'r bara gosod;
37
y canhwyllbren o aur pur, ei lampau wedi eu goleuo, ynghyd 'u holl lestri, a'r olew ar gyfer y golau;
38
yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl;
39
yr allor bres, a'r rhwyll bres ar ei chyfer, a'i pholion a'i holl lestri; y noe a'i throed;
40
llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed; gorchudd porth y cyntedd, ei raffau a'i hoelion, a'r holl lestri ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;
41
y gwisgoedd wedi eu gwno'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig Aaron a'i feibion, iddynt wasanaethu fel offeiriaid.
42
Yr oedd pobl Israel wedi gwneud yr holl waith yn union fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
43
Gwelodd Moses eu bod wedi gwneud yr holl waith fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, a bendithiodd Moses hwy.
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40