bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joshua 1
Joshua 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
1
Wedi marw Moses gwas yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses,
2
"Y mae fy ngwas Moses wedi marw; yn awr, croesa di a'r holl bobl hyn yr Iorddonen yma i'r wlad yr wyf fi'n ei rhoi i blant Israel.
3
Rhof i chwi bob llecyn y bydd gwadn eich troed yn cerdded drosto, fel y dywedais wrth Moses.
4
Bydd eich terfyn yn ymestyn o'r anialwch a Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates, sef holl wlad yr Hethiaid, hyd at y Mr Mawr yn y gorllewin.
5
Ni saif neb o'th flaen tra byddi byw; byddaf gyda thi fel y bm gyda Moses; ni'th adawaf na chefnu arnat.
6
Bydd yn gryf a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i'r bobl hyn feddiant o'r wlad yr addewais ei rhoi i'w hynafiaid.
7
Yn unig bydd yn gryf a dewr iawn, a gofala weithredu yn l yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iti. Paid gwyro oddi wrthi i'r dde na'r chwith, er mwyn iti ffynnu ple bynnag yr ei.
8
Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu.
9
Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei."
10
Dywedodd Josua wrth swyddogion y bobl
11
am fynd trwy ganol y gwersyll, a gorchymyn i'r bobl, "Darparwch ichwi luniaeth, oherwydd o fewn tridiau byddwch yn croesi'r Iorddonen ar y ffordd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth i chwi."
12
Ac wrth Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse, dywedodd Josua,
13
"Cofiwch beth a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, fod yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi diogelwch ichwi yma, ac yn rhoi'r wlad hon i chwi.
14
Caiff eich gwragedd, eich plant a'ch anifeiliaid aros yn y wlad a roddodd Moses ichwi y tu hwnt i'r Iorddonen; ond y mae pob milwr o'ch plith i fynd trosodd yn llu arfog o flaen eich perthnasau i'w cynorthwyo,
15
nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau fel i chwi, a hwythau'n cael meddiant o'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi iddynt; yna cewch ddychwelyd a meddiannu'r wlad a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD yn etifeddiaeth i chwi i'r dwyrain o'r Iorddonen."
16
Dyma'u hateb i Josua: "Fe wnawn beth bynnag yr wyt yn ei orchymyn inni, a mynd i ble bynnag yr anfoni ni;
17
ufuddhawn i ti ym mhopeth fel y gwnaethom i Moses, dim ond i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda thi fel y bu gyda Moses.
18
Rhodder i farwolaeth bwy bynnag fydd yn anufuddhau i'th air ac yn gwrthod gwrando ar unrhyw beth a orchmynni. Yn unig bydd yn gryf a dewr."
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24