bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joshua 21
Joshua 21
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
1
Daeth pennau-teuluoedd y Lefiaid at yr offeiriad Eleasar, at Josua fab Nun, ac at bennauteuluoedd llwythau'r Israeliaid,
2
a dweud wrthynt yn Seilo yng ngwlad Canaan, "Gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses roi dinasoedd i ni i fyw ynddynt, a hefyd eu porfeydd ar gyfer ein hanifeiliaid."
3
Yna, yn l gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoddodd yr Israeliaid o'u hetifeddiaeth hwy y dinasoedd a nodir isod a'u porfeydd i'r Lefiaid.
4
Pan ddisgynnodd y coelbren ar deuluoedd y Cohathiaid, cafodd y Lefiaid a hanoedd o Aaron yr offeiriad dair dinas ar ddeg trwy'r coelbren gan lwythau Jwda, Simeon a Benjamin.
5
Cafodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Effraim, llwyth Dan, a hanner llwyth Manasse.
6
Cafodd y Gersoniaid dair dinas ar ddeg yn Basan trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali a hanner llwyth Manasse.
7
Cafodd y Merariaid ddeuddeg dinas, yn l eu teuluoedd, gan lwythau Reuben, Gad a Sabulon.
8
Rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a'u porfeydd i'r Lefiaid trwy'r coelbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
9
Rhoesant y dinasoedd a enwir yma gan lwythau Jwda a Simeon
10
i'r Lefiaid o deuluoedd y Cohathiaid a hanoedd o Aaron, gan mai arnynt hwy y disgynnodd y coelbren cyntaf.
11
Rhoesant iddynt Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), sef Hebron ym mynydddir Jwda, a'r porfeydd o'i hamgylch.
12
Ond rhoesant dir y ddinas a'i phentrefi yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.
13
I ddisgynyddion Aaron yr offeiriad rhoesant Hebron, dinas noddfa i leiddiaid, hefyd Libna,
14
Jattir, Estemoa,
15
Holon, Debir,
16
Ain, Jutta a Beth-semes, bob un 'i phorfeydd: naw dinas gan y ddau lwyth hynny.
17
Ac o lwyth Benjamin rhoesant Gibeon, Geba,
18
Anathoth, ac Almon, bob un 'i phorfeydd: pedair dinas.
19
Cafodd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, dair dinas ar ddeg a'u porfeydd.
20
Gan lwyth Effraim y cafodd gweddill y Lefiaid o linach Cohath eu dinasoedd trwy goelbren, yn l teuluoedd y Cohathiaid.
21
Rhoesant Sichem, dinas noddfa i leiddiaid ym mynydddir Effraim, hefyd Geser,
22
Cibsaim a Beth-horon, bob un 'i phorfeydd: pedair dinas.
23
O lwyth Dan yr oedd Eltece, Gibbethon,
24
Ajalon a Gathrimmon, bob un 'i phorfeydd: pedair dinas.
25
O hanner llwyth Manasse yr oedd Taanach a Gath-rimmon a'u porfeydd: dwy ddinas.
26
Cafodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid ddeg dinas i gyd, a'u porfeydd.
27
Gan hanner llwyth Manasse cafodd y Gersoniaid o blith teuluoedd y Lefiaid Golan, dinas noddfa i leiddiaid yn Basan, a hefyd Beestera, bob un 'i phorfeydd: dwy ddinas.
28
O lwyth Issachar cafwyd Cison, Daberath,
29
Jarmuth ac Engannim, bob un 'i phorfeydd: pedair dinas.
30
O lwyth Aser cafwyd Misal, Abdon,
31
Helcath a Rehob, bob un 'i phorfeydd: pedair dinas.
32
O lwyth Nafftali cafwyd Cedes, dinas noddfa i leiddiaid yn Galilea, a hefyd Hammoth-dor a Cartan, bob un 'i phorfeydd: tair dinas.
33
Yr oedd gan y Gersoniaid, yn l eu teuluoedd, dair dinas ar ddeg i gyd, a'u porfeydd.
34
Gan lwyth Sabulon cafodd gweddill y Lefiaid a hanoedd o Merari, yn l eu teuluoedd, Jocneam, Carta,
35
Dimna a Nahalal, bob un 'i phorfeydd: pedair dinas.
36
O lwyth Reuben cafwyd Beser, Jahas,
37
Cedemoth a Meffaath, bob un 'i phorfeydd: pedair dinas.
38
O lwyth Gad cafwyd Ramoth, dinas noddfa i leiddiaid, yn Gilead, hefyd Mahanaim,
39
Hesbon a Jaser, bob un 'i phorfeydd: pedair dinas i gyd.
40
Nifer y dinasoedd a gafodd y Merariaid, sef gweddill teuluoedd y Lefiaid, oedd deuddeg dinas i gyd, trwy'r coelbren yn l eu teuluoedd.
41
Yr oedd nifer dinasoedd y Lefiaid oddi mewn i diriogaeth yr Israeliaid yn wyth a deugain o ddinasoedd a'u porfeydd.
42
Yr oedd gan bob un o'r dinasoedd hyn ei phorfeydd o'i hamgylch; dyna'r drefn gyda phob un o'r dinasoedd hyn.
43
Rhoddodd yr ARGLWYDD i Israel yr holl wlad a addawodd i'w hynafiaid. Wedi iddynt ei meddiannu ac ymsefydlu ynddi,
44
rhoddodd yr ARGLWYDD ddiogelwch iddynt ar bob tu, yn union fel yr addawodd i'w hynafiaid; ni allodd yr un o'u gelynion eu gwrthsefyll, oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD hwy oll yn eu dwylo.
45
Ni fethodd un o'r holl bethau da a addawodd yr ARGLWYDD i du375? Israel; daeth y cwbl i ben.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24