bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joshua 9
Joshua 9
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
1
Pan glywodd yr holl frenhinoedd y tu hwnt i'r Iorddonen, yn y mynydd-dir a'r Seffela ac arfordir y Mr Mawr wrth Lebanon, yn Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid a Jebusiaid,
2
daethant ynghyd fel un i ryfela yn erbyn Josua ac Israel.
3
Pan glywodd trigolion Gibeon yr hyn yr oedd Josua wedi ei wneud i Jericho ac Ai,
4
dyma hwythau'n gweithredu'n gyfrwys. Aethant a darparu bwyd, a llwytho'u hasynnod hen sachau, a hen wingrwyn tyllog wedi eu trwsio.
5
Rhoesant am eu traed hen sandalau wedi eu clytio, a hen ddillad amdanynt; a bara wedi sychu a llwydo oedd eu bwyd.
6
Yna daethant at Josua i wersyll Gilgal, a dweud wrtho ef a phobl Israel, "Yr ydym wedi dod o wlad bell; felly gwnewch gyfamod ni'n awr."
7
Ond meddai pobl Israel wrth yr Hefiaid, "Efallai eich bod yn byw yn ein hymyl, ac os felly, sut y gwnawn ni gyfamod chwi?"
8
Dywedasant wrth Josua, "Dy weision di ydym." Pan ofynnodd Josua iddynt, "Pwy ydych, ac o ble y daethoch?",
9
atebasant, "Y mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn o achos enw'r ARGLWYDD dy Dduw; oblegid clywsom sn amdano ef, ac am y cwbl a wnaeth yn yr Aifft,
10
ac i ddau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen, Sehon brenin Hesbon ac Og brenin Basan, a drigai yn Astaroth.
11
Am hynny dywedodd ein henuriaid a holl drigolion ein gwlad wrthym, 'Cymerwch fwyd ar gyfer y daith ac ewch i'w cyfarfod, a dywedwch wrthynt, "Eich gweision ydym; felly'n awr gwnewch gyfamod ni."'
12
Dyma'n bara; yr oedd yn boeth pan oeddem yn darparu i fynd oddi cartref, y diwrnod yr oeddem yn cychwyn i ddod atoch. Edrychwch fel y mae'n awr wedi sychu a llwydo.
13
A dyma'r gwingrwyn oedd yn newydd pan lanwasom hwy; edrychwch, y maent wedi rhwygo. A dyma'n dillad a'n sandalau wedi treulio gan bellter mawr y daith."
14
Cymerodd pobl Israel beth o'u bwyd heb ymgynghori 'r ARGLWYDD.
15
Gwnaeth Josua heddwch hwy, a gwneud cyfamod i'w harbed, a thyngodd arweinwyr y gynulleidfa iddynt.
16
Ymhen tridiau wedi iddynt wneud y cyfamod hwy, clywsant mai cymdogion yn byw yn eu hymyl oeddent.
17
Wrth i'r Israeliaid deithio ymlaen, daethant ar y trydydd dydd i'w trefi hwy, Gibeon, Ceffira, Beeroth a Ciriath-jearim.
18
Ond nid ymosododd yr Israeliaid arnynt, oherwydd bod arweinwyr y gynulleidfa wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, er i'r holl gynulleidfa rwgnach yn erbyn yr arweinwyr.
19
Ond dywedodd yr holl arweinwyr wrth y gynulleidfa gyfan, "Yr ydym ni wedi tyngu iddynt yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn awr ni allwn gyffwrdd hwy.
20
Dyma a wnawn iddynt: arbedwn eu bywydau, rhag i ddigofaint ddisgyn arnom oherwydd y llw a dyngasom."
21
Ac meddai'r arweinwyr wrthynt, "Cnt fyw, er mwyn iddynt dorri coed a thynnu du373?r i'r holl gynulleidfa." Cytunodd yr holl gynulleidfa 'r hyn a ddywedodd yr arweinwyr.
22
Galwodd Josua arnynt a dweud wrthynt, "Pam y bu ichwi ein twyllo a honni eich bod yn byw yn bell iawn i ffwrdd oddi wrthym, a chwithau'n byw yn ein hymyl?
23
Yn awr yr ydych dan y felltith hon: bydd gweision o'ch plith yn barhaol yn torri coed ac yn tynnu du373?r ar gyfer tu375? fy Nuw."
24
Atebasant Josua fel hyn: "Fe ddywedwyd yn glir wrthym ni, dy weision, fod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i'w was Moses roi i chwi y wlad gyfan, a distrywio o'ch blaen ei holl drigolion; am hynny yr oedd arnom ofn mawr am ein heinioes o'ch plegid, a dyna pam y gwnaethom hyn.
25
Yr ydym yn awr yn dy law; gwna inni yr hyn yr wyt ti'n ei dybio sy'n iawn."
26
A dyna a wnaeth Josua iddynt y diwrnod hwnnw: fe'u hachubodd o law'r Israeliaid rhag iddynt eu lladd,
27
a'u gosod i dorri coed ac i dynnu du373?r i'r gynulleidfa ar gyfer allor yr ARGLWYDD yn y lle a ddewisai ef; ac felly y maent hyd heddiw.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24