bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joshua 2
Joshua 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
1
O Sittim anfonodd Josua fab Nun ddau ysbwr yn ddirgel. Dywedodd wrthynt, "Ewch i ysbo'r wlad, yn arbennig Jericho." Aethant hwythau, a chyrraedd tu375? rhyw butain o'r enw Rahab, a lletya yno. Dywedwyd wrth frenin Jericho,
2
"Edrych! Y mae rhai o'r Israeliaid wedi cyrraedd yma heno i chwilio'r wlad."
3
Anfonodd brenin Jericho at Rahab a dweud, "Tro allan y dynion a ddaeth atat i'th du375?, oherwydd wedi dod i ysbo'r holl wlad y maent."
4
Wedi i'r wraig gymryd y ddau ddyn a'u cuddio, dywedodd, "Do, fe ddaeth y dynion ataf, ond ni wyddwn o ble'r oeddent;
5
a chyda'r nos, pan oedd y porth ar fin cau, aeth y dynion allan. Ni wn i ble'r aethant, ond brysiwch ar eu hl; yr ydych yn sicr o'u dal."
6
Yr oedd hi wedi mynd 'r dynion i fyny ar y to, a'u cuddio 'r planhigion llin a oedd ganddi'n rhesi yno.
7
Aeth y dynion a oedd yn eu hymlid ar eu hl hyd at rydau'r Iorddonen; a chaewyd y porth, wedi i'r ymlidwyr fynd allan.
8
Cyn i'r ysbwyr gysgu, aeth Rahab i fyny ar y to,
9
a dweud wrthynt, "Gwn fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r wlad i chwi, a bod eich arswyd wedi syrthio arnom, a holl drigolion y wlad mewn gwewyr o'ch plegid.
10
Oherwydd clywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y Mr Coch o'ch blaen pan ddaethoch allan o'r Aifft, ac fel y bu ichwi ddifodi Sihon ac Og, dau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen.
11
Pan glywsom hyn, suddodd ein calonnau, ac nid oes hyder gan neb i'ch wynebu, oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw chwi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod.
12
Am hynny, tyngwch i mi yn enw'r ARGLWYDD, am i mi wneud caredigrwydd chwi, y gwnewch chwithau'r un modd 'm teulu i; rhowch imi sicrwydd
13
y cadwch yn fyw fy nhad a'm mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, a phawb sy'n perthyn iddynt, ac yr arbedwch ein bywydau rhag angau."
14
Dywedodd y dynion wrthi, "Byddwn yn barod i farw yn eich lle, dim ond i chwi beidio datgelu'n cyfrinach; pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi inni'r wlad, fe wnawn garedigrwydd a thegwch thi."
15
Yna gollyngodd Rahab hwy i lawr drwy'r ffenestr ar raff, oherwydd yr oedd ei thu375? ar fur y ddinas, a hithau'n byw ar y mur.
16
Dywedodd wrthynt, "Ewch tua'r mynydd, rhag i'r rhai sy'n eich ymlid daro arnoch; cuddiwch yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd, ac wedyn ewch eich ffordd eich hun."
17
Dywedodd y dynion wrthi, "Byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu,
18
pan fyddwn yn dod i mewn i'r wlad, os na fyddi wedi rhwymo'r edau ysgarlad hon yn y ffenestr y gollyngaist ni drwyddi, ac wedi galw ynghyd i'r tu375? dy dad a'th fam, dy frodyr a'th deulu i gyd.
19
Pwy bynnag a allan trwy ddrws dy du375?, bydd yn gyfrifol am ei waed ei hun, a byddwn ni'n ddieuog; ond pwy bynnag a fydd gyda thi yn y tu375?, byddwn ni'n gyfrifol am ei waed os codir llaw yn ei erbyn.
20
Os datgeli ein cyfrinach, byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu iti."
21
Atebodd hithau, "Rwy'n cytuno"; ac anfonodd hwy ar eu taith. Wedi iddynt fynd, rhwymodd yr edau ysgarlad yn y ffenestr.
22
Aethant hwythau, a chyrraedd y mynyddoedd ac aros yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd.
23
Bu'r ymlidwyr yn chwilio amdanynt bob cam o'r ffordd, ond heb eu cael. Yna daeth y ddau i lawr o'r mynyddoedd yn eu hl, a chroesi drosodd at Josua fab Nun ac adrodd wrtho bopeth a ddigwyddodd iddynt,
24
a dweud, "Yn wir y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r holl wlad yn ein dwylo, ac y mae'r trigolion i gyd mewn gwewyr o'n plegid."
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24