bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joshua 4
Joshua 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 5 →
1
Wedi i'r holl genedl orffen croesi'r Iorddonen, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua,
2
"Dewiswch ddeuddeg dyn o blith y bobl, un o bob llwyth.
3
Gorchmynnwch iddynt godi deuddeg maen o ganol yr Iorddonen, o'r union fan y saif traed yr offeiriaid arno, a'u cymryd drosodd gyda hwy, a'u gosod yn y lle y byddant yn gwersyllu heno."
4
Galwodd Josua y deuddeg dyn a ddewisodd o blith yr Israeliaid, un o bob llwyth,
5
a dywedodd wrthynt, "Ewch drosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich Duw at ganol yr Iorddonen, a choded pob un ei faen ar ei ysgwydd, yn l nifer llwythau'r Israeliaid,
6
i fod yn arwydd yn eich mysg. Pan fydd eich plant yn gofyn yn y dyfodol, 'Beth yw ystyr y meini hyn i chwi?'
7
yna byddwch yn dweud wrthynt fel y bu i ddyfroedd yr Iorddonen gael eu hatal o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan aeth hi drosodd, ataliwyd y dyfroedd. Felly bydd y meini hyn yn gofeb i'r Israeliaid hyd byth."
8
Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnodd Josua, a chodi deuddeg maen o wely'r Iorddonen, yn l nifer llwythau'r Israeliaid, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua, a'u cludo drosodd gyda hwy i'r man lle'r oeddent yn gwersyllu, a'u gosod yno.
9
Hefyd gosododd Josua ddeuddeg maen yng nghanol yr Iorddonen, lle safodd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod, ac yno y maent hyd heddiw.
10
Bu'r offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn sefyll yng nghanol yr Iorddonen nes cwblhau popeth y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Josua ei ddweud wrth y bobl, y cyfan yr oedd Moses wedi ei orchymyn i Josua. Yr oedd y bobl yn brysio i groesi,
11
ac wedi iddynt oll orffen, fe groesodd arch yr ARGLWYDD a'r offeiriaid yng ngu373?ydd y bobl.
12
Hefyd fe groesodd gwu375?r Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse yn arfog o flaen yr Israeliaid, fel yr oedd Moses wedi dweud wrthynt.
13
Croesodd tua deugain mil o filwyr profiadol gerbron yr ARGLWYDD i'r frwydr yn rhosydd Jericho.
14
Dyrchafodd yr ARGLWYDD Josua y diwrnod hwnnw yng ngolwg Israel gyfan, a daethant i'w barchu ef, fel yr oeddent wedi parchu Moses holl ddyddiau ei einioes.
15
Wedi i'r ARGLWYDD ddweud wrth Josua
16
am orchymyn i'r offeiriaid oedd yn cludo arch y dystiolaeth esgyn o'r Iorddonen,
17
gorchmynnodd Josua iddynt, "Dewch i fyny o'r Iorddonen."
18
Ac fel yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn esgyn o ganol yr Iorddonen, a gwadnau eu traed yn cyffwrdd tir sych, dychwelodd dyfroedd yr Iorddonen i'w lle, a llifo'n llawn at ei glannau megis cynt.
19
Ar y degfed dydd o'r mis cyntaf y daeth y bobl i fyny o'r Iorddonen a gwersyllu yn Gilgal, ar gwr dwyreiniol Jericho.
20
Gosododd Josua y deuddeg maen a gymerwyd o wely'r Iorddonen yn Gilgal,
21
a dweud wrth yr Israeliaid, "Pan fydd eich plant yn gofyn i'w rhieni yn y dyfodol, 'Beth yw ystyr y meini hyn?'
22
dywedwch wrthynt i Israel groesi'r Iorddonen ar dir sych;
23
oherwydd sychodd yr ARGLWYDD eich Duw ddu373?r yr Iorddonen o'ch blaen nes ichwi groesi, fel y gwnaeth gyda'r Mr Coch, pan sychodd hwnnw o'n blaen nes inni ei groesi.
24
Digwyddodd hyn er mwyn i holl bobloedd y ddaear wybod mor gryf yw yr ARGLWYDD, ac er mwyn ichwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw bob amser."
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24