bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joshua 18
Joshua 18
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
1
Daeth holl gynulliad Israel at ei gilydd i Seilo, a gosod yno babell y cyfarfod. Yr oedd y wlad wedi ei darostwng o'u blaen,
2
ond yr oedd ar l ymysg yr Israeliaid saith llwyth heb ddosrannu eu hetifeddiaeth.
3
Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, "Am ba hyd yr ydych am esgeuluso mynd i feddiannu'r tir a roddodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid ichwi?
4
Dewiswch dri dyn o bob llwyth, imi eu hanfon allan i gerdded y wlad a gwneud rhestrau ar gyfer ei hetifeddu, ac yna dod yn l ataf.
5
Y maent i'w rhannu'n saith rhan; y mae Jwda i gadw ei derfyn yn y de, a thu375? Joseff ei derfyn yn y gogledd.
6
Ac wedi ichwi ddosbarthu'r tir yn saith rhan, dewch 'r rhestrau ataf fi i'r fan hon, er mwyn imi fwrw coelbren drosoch yma gerbron yr ARGLWYDD ein Duw.
7
Ni fydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg, oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD yw eu hetifeddiaeth hwy; a hefyd y mae Gad a Reuben a hanner llwyth Manasse wedi cael eu hetifeddiaeth i'r dwyrain o'r Iorddonen o law Moses gwas yr ARGLWYDD."
8
Pan oedd y dynion yn cychwyn ar eu taith i restru'r tir, gorchmynnodd Josua iddynt, "Ewch i fyny ac i lawr y wlad, a rhestrwch hi; yna dewch yn l ataf fi, ac fe fwriaf goelbren drosoch gerbron yr ARGLWYDD yma yn Seilo."
9
Aeth y dynion, a cherdded y wlad a'i rhestru mewn llyfr, yn saith rhan, fesul trefi; yna daethant yn l at Josua yng ngwersyll Seilo.
10
Bwriodd Josua goelbren drostynt gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo, a rhannu'r tir i'r Israeliaid, cyfran i bob un.
11
Pan ddisgynnodd coelbren llwyth Benjamin yn l eu tylwythau, cawsant diriogaeth rhwng Jwda a thylwyth Joseff.
12
I'r gogledd i'r terfyn o'r Iorddonen i fyny heibio i lechwedd gogleddol Jericho, a thua'r gorllewin, i'r mynydd-dir, nes cyrraedd anialwch Bethafen.
13
Croesai'r terfyn oddi yno i Lus, ac i'r de ar hyd llechwedd Lus, sef Bethel, ac yna i lawr at Ataroth-adar ar y mynydd i'r de o Bethhoron Isaf.
14
Yr oedd y terfyn yn newid ei gyfeiriad ar yr ochr orllewinol, ac yn troi tua'r de o'r mynydd sy'n wynebu Beth-horon, ac ymlaen nes cyrraedd Ciriathbaal, sef Ciriath-jearim, tref yn perthyn i Jwda. Dyma'r ochr orllewinol.
15
Yr oedd ochr ddeheuol y terfyn yn mynd o gwr Ciriathjearim tua'r gorllewin, hyd at ffynnon dyfroedd Nefftoa.
16
Yna i'r terfyn i lawr at gwr y mynydd sy'n wynebu dyffryn Ben-hinnom, i'r gogledd o ddyffryn Reffaim; wedi hynny, i lawr dyffryn Hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid at Enrogel.
17
Wedi troi tua'r gogledd, i i En-semes ac ymlaen i Geliloth, gyferbyn rhiw Adummim, ac i lawr at faen Bohan fab Reuben,
18
cyn croesi ochr ogleddol y llechwedd sy'n wynebu'r Araba, a mynd i lawr yno.
19
Yna i'r terfyn ar hyd ochr ogleddol llechwedd Bethhogla, nes cyrraedd cilfach ogleddol y Mr Marw ac aber yr Iorddonen. Hwn yw'r terfyn deheuol.
20
Yr Iorddonen yw'r terfyn ar yr ochr ddwyreiniol. Dyma etifeddiaeth Benjamin yn l eu tylwythau, a'i therfynau o amgylch.
21
Y trefi sy'n perthyn i lwyth Benjamin, yn l eu tylwythau, yw: Jericho, Beth-hogla, Emeccesis,
22
Beth-araba, Semaraim, Bethel,
23
Afim, Para, Offra,
24
Ceffar Haammonai, Offni a Geba: deuddeg o drefi a'u pentrefi.
25
Gibeon, Rama, Beeroth,
26
Mispe, Ceffira, Mosa,
27
Recem, Irpeel, Tarala,
28
Sela, Eleff, Jebusi (sef Jerwsalem), Gibea a Ciriath: pedair ar ddeg o drefi a'u pentrefi. Dyma etifeddiaeth Benjamin yn l eu tylwythau.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24