bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joshua 15
Joshua 15
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
Yr oedd rhandir llwyth Jwda yn l eu tylwythau yn ymestyn at derfyn Edom, yn anialwch Sin, ar gwr deheuol y Negef.
2
Yr oedd eu terfyn deheuol yn rhedeg o gwr eithaf y Mr Marw, o'r gilfach sy'n wynebu tua'r Negef,
3
ac ymlaen i'r de o riw Acrabbim heibio i Sin, yna i fyny i'r de o Cades-barnea, heibio i Hesron, i fyny at Addar ac yna troi am Carca.
4
Wedi mynd heibio i Asmon, dilynai derfyn nant yr Aifft, nes cyrraedd y mr. Hwn oedd eu terfyn deheuol.
5
Y terfyn i'r dwyrain oedd y Mr Marw, cyn belled ag aber yr Iorddonen. Yr oedd y terfyn gogleddol yn ymestyn o gilfach y mr, ger aber yr Iorddonen,
6
i fyny at Beth-hogla, gan gadw i'r gogledd o Beth-araba ac ymlaen at faen Bohan fab Reuben.
7
Yna i'r terfyn o ddyffryn Achor i Debir, a thua'r gogledd i gyfeiriad Gilgal, sydd gyferbyn rhiw Adummim i'r de o'r nant, a throsodd at ddyfroedd En-semes ac ymlaen at En-rogel.
8
Oddi yno i'r terfyn i fyny dyffryn Ben-hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid, sef Jerwsalem, ac i ben y mynydd sy'n wynebu dyffryn Hinnom o'r gorllewin, yng nghwr gogleddol dyffryn Reffaim.
9
O ben y mynydd yr oedd y terfyn yn troi am ffynnon dyfroedd Nefftoa ac yna ymlaen at drefi Mynydd Effron, cyn troi am Baala, sef Ciriath-jearim.
10
O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna.
11
Wedi hyn i'r terfyn ymlaen hyd lechwedd gogleddol Ecron, yna mynd i gyfeiriad Sicceron, ymlaen at Fynydd Baala ac at Jabneel, nes cyrraedd y mr.
12
Glannau'r Mr Mawr oedd y terfyn gorllewinol. Dyma'r terfyn o amgylch Jwda yn l eu tylwythau.
13
Yn l gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba.
14
Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac.
15
Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriathseffer oedd enw Debir gynt.
16
Dywedodd Caleb, "Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo."
17
Othniel fab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.
18
Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, "Beth a fynni?"
19
Atebodd hithau, "Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef, rho imi hefyd ffynhonnau du373?r." Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.
20
Dyma etifeddiaeth llwyth Jwda yn l eu tylwythau.
21
Yng nghwr eithaf llwyth Jwda ar derfyn Edom yn y Negef, y trefi oedd Cabseel, Eder, Jagur,
22
Cina, Dimona, Adada,
23
Cedes, Hasor, Ithnan,
24
Siff, Telem, Bealoth,
25
Hasor, Hadatta, Cerioth, Hesron (sef Hasor),
26
Amam, Sema, Molada,
27
Hasargada, Hesmon, Beth-pelet,
28
Hasarsual, Beerseba, Bisiothia,
29
Baala, Iim, Esem,
30
Eltolad, Cesil, Horma, Siclag, Madmanna, Sansanna,
31
Lebaoth, Silhim, Ain a Rimmon:
32
cyfanswm o naw ar hugain o drefi a'u pentrefi.
33
Yn y Seffela yr oedd Estaol, Sora, Asna,
34
Sanoa, En-gannim, Tappua, Enam,
35
Jarmuth, Adulam, Socho, Aseca,
36
Saaraim, Adithaim, Gedera a Gederothaim: pedair ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
37
Senan, Hadasa, Migdalgad,
38
Dilean, Mispe, Joctheel,
39
Lachis, Boscath, Eglon,
40
Cabbon, Lahmam, Cithlis,
41
Gederoth, Beth-dagon, Naama a Macceda: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
42
Libna, Ether, Asan,
43
Jiffta, Asna, Nesib,
44
Ceila, Achsib a Maresa: naw o drefi a'u pentrefi.
45
Ecron a'i maestrefi a'i phentrefi;
46
ac, i'r gorllewin o Ecron, y cwbl oedd yn ymyl Asdod, a'u pentrefi.
47
Asdod, ei maestrefi a'i phentrefi; Gasa, ei maestrefi a'i phentrefi at nant yr Aifft, ac at lan y Mr Mawr.
48
Yn y mynydddir yr oedd Samir, Jattir, Socho,
49
Danna, Ciriath-sannath (sef Debir),
50
Anab, Astemo, Anim,
51
Gosen, Holon a Gilo: un ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
52
Arab, Duma, Esean,
53
Janum, Bethtappua, Affeca,
54
Humta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sor: naw o drefi a'u pentrefi.
55
Maon, Carmel, Siff, Jutta,
56
Jesreel, Jocdeam, Sanoa,
57
Cain, Gibea, Timna: deg o drefi a'u pentrefi.
58
Halhul, Bethsur, Gedor,
59
Maarath, Beth-anoth ac Eltecon: chwech o drefi a'u pentrefi.
60
Ciriathbaal, sef Ciriath-jearim, a Rabba: dwy dref a'u pentrefi.
61
Yn yr anialwch yr oedd Betharaba, Midin, Sechacha,
62
Nibsan, Dinas yr Halen ac Engedi: chwech o drefi a'u pentrefi.
63
Ni allodd y Jwdeaid ddisodli'r Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem; felly y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Jwdeaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24