bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joshua 11
Joshua 11
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
1
Pan glywodd Jabin brenin Hasor, anfonodd at Jobab brenin Madon ac at frenhinoedd Simron ac Achsaff,
2
hefyd at y brenhinoedd oedd ym mynydd-dir y gogledd ac yn yr Araba i'r de o Cinneroth, ac yn y Seffela a Naffath-dor yn y gorllewin.
3
Yr oedd y Canaaneaid i'r dwyrain a'r gorllewin, a'r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebusiaid yn y mynydd-dir, gyda'r Hefiaid dan Fynydd Hermon yn ardal Mispa.
4
Daethant allan, hwy a'u holl fyddinoedd, yn llu enfawr, mor niferus 'r tywod ar lan y mr, gyda llawer iawn o feirch a cherbydau.
5
Wedi i'r holl frenhinoedd hyn ymgynnull, aethant a gwersyllu ynghyd ger Dyfroedd Merom er mwyn ymladd ag Israel.
6
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Paid 'u hofni, oherwydd tua'r adeg yma yfory byddaf yn rhoi pob un yn gelain gerbron Israel; byddi'n torri llinynnau garrau eu meirch ac yn llosgi eu cerbydau thn."
7
Daeth Josua a'r holl filwyr oedd gydag ef ar eu gwarthaf yn ddisymwth ger Dyfroedd Merom, a rhuthro arnynt.
8
Rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Israel; trawsant hwy, a'u hymlid hyd at Sidon Fawr a Misreffoth-maim, a dyffryn Mispa i'r dwyrain. Trawsant hwy, heb arbed neb.
9
Gwnaeth Josua iddynt fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho; torrodd linynnau garrau eu meirch a llosgodd eu cerbydau thn.
10
Y pryd hwnnw trodd Josua i gyfeiriad Hasor a'i goresgyn, a lladd ei brenin 'r cleddyf. Yr oedd Hasor gynt yn ben ar yr holl deyrnasoedd hynny.
11
Trawsant bawb oedd ynddi 'r cleddyf a'u lladd, heb arbed yr un perchen anadl, ac yna llosgi Hasor thn.
12
Goresgynnodd Josua bob un o ddinasoedd y brenhinoedd hyn yn ogystal 'u brenhinoedd; trawodd hwy 'r cleddyf a'u difodi, fel y gorchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD.
13
Ond am y dinasoedd oedd yn sefyll ar garneddau, ni losgodd Israel yr un ohonynt, ac eithrio Hasor, a losgwyd gan Josua.
14
Cymerodd yr Israeliaid holl anrhaith y dinasoedd hynny yn ysbail, gan gynnwys y gwartheg, ond trawsant y boblogaeth i gyd 'r cleddyf a'u lladd, heb arbed un perchen anadl.
15
Fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i'w was Moses, felly yr oedd Moses wedi gorchymyn i Josua; dyna a wnaeth Josua heb esgeuluso dim o'r cwbl a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
16
Gorchfygodd Josua y cwbl o'r wlad hon: y mynydd-dir, y Negef i gyd, holl wlad Gosen, y Seffela a'r Araba; hefyd mynydd-dir Israel a'r Seffela,
17
o Fynydd Halac sy'n codi tua Seir hyd at Baal-gad yn nyffryn Lebanon dan Fynydd Hermon. Gorchfygodd ei brenhinoedd i gyd, a'u taro a'u lladd.
18
Bu Josua'n ymladd 'r holl frenhinoedd hyn am amser maith.
19
Ni wnaeth yr un ddinas gytundeb heddwch 'r Israeliaid, heblaw'r Hefiaid oedd yn byw yn Gibeon; cymryd y cwbl trwy ryfel a wnaethant.
20
Yr ARGLWYDD oedd yn caledu eu calon i ryfela yn erbyn Israel, er mwyn iddynt eu difodi yn ddidrugaredd, ac yn wir eu distrywio fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
21
Y pryd hwnnw aeth Josua a difa'r Anacim o'r mynydd-dir o gwmpas Hebron, Debir, ac Anab, ac o holl fynydd-dir Jwda ac Israel; difododd Josua hwy a'u dinasoedd.
22
Ni adawyd Anacim ar l yng ngwlad yr Israeliaid, ond yr oedd gweddill ohonynt ar l yn Gasa, Gath ac Asdod.
23
Enillodd Josua yr holl wlad yn unol 'r cwbl a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, a rhoddodd Josua hi yn etifeddiaeth i Israel yn l cyfrannau'r llwythau. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24