bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 10
2 Corinthians 10
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
1
A myfi fy hun, Paul, a attolygaf i chwi trwy addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn “yn eich gwydd yn wir wyf ostyngedig yn eich plith; ond pan yn absennol, yn hyderus tuag attoch;”
2
a dymunaf na bo i mi, pan yn bresennol, fod yn hyderus â’r ymddiried â’r hwn yr wyf yn meddwl bod yn eofn yn erbyn rhai y sydd yn ein cyfrif ni megis yn rhodio yn ol y cnawd;
3
canys tra yn y cnawd y rhodiwn, nid yn ol y cnawd yr ym yn milwrio,
4
(canys arfau ein milwriaeth, nid cnawdol ydynt, eithr galluog,
5
trwy Dduw, er bwrw i lawr gestyll,) gan fwrw i lawr ddychymmygion a phob uchelder y sy’n ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth am Dduw, ac yn caethiwo pob meddwl i ufudd-dod i Grist;
6
ac yn barod i ddial ar bob anufudd-dod pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.
7
Ar y pethau yn eich gwydd yr edrychwch. Os yw neb yn ymddiried ynddo ei hun, ei fod yn eiddo Crist, meddylied hyn etto ynddo ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly yr ydym ninnau hefyd.
8
Canys ped ymffrostiwn rywfaint helaethach am ein hawdurdod, (yr hon a roddodd yr Arglwydd er adeiladu, ac nid er eich bwrw i lawr,)
9
ni chywilyddir fi, fel nad edrychwyf fel y dychrynwn chwi trwy fy llythyrau.
10
Ei lythyrau, meddant, ydynt drymion a chryfion, ond presennoldeb y corph sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygadwy.
11
Hyn meddylied y cyfryw ddyn mai y fath ydym mewn ymadrodd, trwy lythyrau, pan yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred pan yn bresennol.
12
Canys nid ydym yn beiddio cyfrif, neu gymharu, ein hunain â’r rhai sydd yn eu canmol eu hunain; eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cymharu eu hunain â’u hunain, heb ddeall y maent.
13
Ond nyni, nid hyd at bethau allan o’n mesur yr ymffrostiwn, eithr yn ol mesur y llinell a rannodd Duw i ni megis mesur, i gyrhaeddyd hyd attoch chwi hefyd:
14
canys nid fel heb gyrhaeddyd hyd attoch, yr estynwn ein hunain dros fesur; canys hyd attoch chwi hefyd y daethom yn Efengyl Crist;
15
nid gan ymffrostio hyd at bethau allan o’n mesur yn llafur rhai eraill; ond a chenym obaith, wrth gynnyddu o’ch ffydd, o gael ein mawrygu ynoch chwi yn ol ein llinell hyd helaethrwydd:
16
i efengylu i’r parthau tu hwnt i chwi, ac nid i ymffrostio yn llinell un arall am y pethau parod eisioes.
17
Ond yr hwn sy’n ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied;
18
canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13