bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 3
2 Corinthians 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
Ai dechreu trachefn ganmol ein hunain yr ydym? A oes arnom, fel ar rai, raid wrth epistolau canmoliaeth attoch, neu oddiwrthych?
2
Ein hepistol ydych chwi, yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yn cael ei adnabod a’i ddarllen gan bob dyn;
3
yn cael eich amlygu eich bod epistol Crist, wedi ei weini genym, wedi ei ysgrifenu nid ag ingc, eithr ag Yspryd y Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr yn llechau cnawdol y galon.
4
A hyder o’r fath hon sydd genym trwy Grist tuag at Dduw;
5
nid ein bod, o honom ein hunain, yn ddigonol i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd oddiwrth Dduw y mae;
6
yr Hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion digonol cyfammod newydd, nid o’r llythyren eithr o’ r yspryd; canys y llythyren a ladd, ond yr yspryd a fywha.
7
Ond os gweinidogaeth angau, wedi ei hysgrifenu a’i hargraphu ar gerrig, fu mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Mosheh o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn ogoniant oedd yn cael ei ddiddymmu,
8
pa fodd yn hytrach na fydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant?
9
canys os yw gweinidogaeth condemniad yn ogoniant, llawer mwy y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant;
10
canys ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd, yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant tra-rhagorol:
11
canys os oedd yr hyn a ddiddymir, mewn gogoniant, llawer mwy y mae’ r hyn sy’n aros mewn gogoniant.
12
Gan hyny, a’r cyfryw obaith genym, hyfder mawr, a arferwn;
13
ac nid fel yr oedd Mosheh yn gosod gorchudd ar ei wyneb fel na chraffai meibion Israel ar ddiwedd yr hyn oedd yn cael ei ddiddymmu;
14
eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw, wrth ddarllen yr hen gyfammod, yr un gorchudd sy’n aros heb ei godi, yr hwn, yng Nghrist y diddymmir ef.
15
Eithr hyd heddyw, pan ddarllener Mosheh, gorchudd sy’n gorwedd ar eu calon hwynt;
16
ond pan dry hi at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.
17
A’r Arglwydd, yr Yspryd yw; a lle y mae Yspryd yr Arglwydd, y mae rhyddid.
18
Ond nyni oll, â gwyneb heb orchudd arno, yn gwrthdaflu, fel drych, ogoniant yr Arglwydd, i’r un ddelw y’n traws-ffurfir, o ogoniant i ogoniant, fel oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13