bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 7
2 Corinthians 7
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
1
Gan fod, gan hyny, a’r addewidion hyn genym, anwylyd, glanhawn ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2
Gwnewch le i ni yn eich calonnau. I neb ni wnaethom gam: nid oes neb a lygrasom;
3
ar neb nid ennillasom. Nid er eich condemniad yr wyf yn dywedyd, canys dywedais o’r blaen mai yn ein calonnau yr ydych, i gyd-farw a chyd-fyw â chwi.
4
Llawer o hyfder ymadrodd sydd genyf wrthych; llawer o ymffrost sydd genyf am danoch; llawn wyf o ddiddanwch; tros fesur tra-chyflawn wyf o lawenydd yn ein holl orthrymder.
5
Canys wedi dyfod o honom i Macedonia, nid oedd dim gorphwysfa i’n cnawd, eithr o bob parth gorthrymmid ni;
6
oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. Eithr yr Hwn sy’n diddanu y rhai gostyngedig, sef Duw, a’n diddanodd trwy ddyfodiad Titus;
7
ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad, eithr hefyd trwy’r diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch wrth fynegi o hono i ni eich hiraeth, eich galar, eich sel chwi tuag attaf, fel y bu i mi lawenychu yn fwy: canys er i mi eich tristau chwi â’m hepistol,
8
nid yw’n edifar genyf, er y bu’n edifar genyf; canys gwelaf y bu i’r epistol hwnw, er ond am ryw amser, eich tristau chwi.
9
Yn awr llawenychaf, nid am eich tristau, eithr am eich tristau i edifeirwch; canys tristawyd chwi yn ol Duw, fel na chaech golled mewn dim genym ni;
10
canys tristwch yn ol Duw, edifeirwch i iachawdwriaeth, o’r hon nid oes edifeirwch, a weithia efe; ond tristwch y byd, marwolaeth a weithia efe.
11
Canys wele, y peth hwn ei hun, eich tristau yn ol Duw, pa faint o astudrwydd a weithiodd efe ynoch, ïe o ymddiffyn, ïe o sorriant, ïe o ofn, ïe o hiraeth, ïe o sel, ïe o ddial. Ymhob peth y dangosasoch eich hunain yn bur yn y matter.
12
Felly, er ysgrifenu o honof attoch, nid oblegid yr hwn a wnaeth y cam yr oedd, nac oblegid yr hwn a gafodd y cam, eithr fel yr amlyger eich astudrwydd am danom i chwi eich hunain ger bron Duw.
13
O achos hyn y’n diddanwyd; ac yn ein diddanwch, mwy tros fesur y llawenychasom am lawenydd Titus, o herwydd dadebru ei yspryd ef genych oll.
14
Canys os ymffrostiais ddim wrtho am danoch, ni’m cywilyddiwyd; eithr fel mewn gwirionedd y llefarasom bob peth wrthych, felly ein hymffrost hefyd wrth Titus a gafwyd yn wirionedd.
15
A’i ymysgaroedd ef sydd fwy tros fesur tuag attoch, wrth adgofio o hono ufudd-dod yr oll o honoch, y modd gydag ofn a dychryn y derbyniasoch ef.
16
Llawenychaf gan mai ymhob peth yr hyderaf ynoch.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13