bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 8
2 Corinthians 8
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
1
Ac hyspysu yr wyf i chwi, frodyr, ras Duw, yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia;
2
mai mewn llawer o brofiad gorthrymder, mawr helaethrwydd eu llawenydd a’u tlodi dwfn a fawr-ymhelaethasant i gyfoeth eu haeledd; canys yn ol eu gallu,
3
tystiaf, a thu hwnt i’ w gallu, o’u hewyllys eu hunain,
4
gyda llawer o ymbil yn deisyfu arnom o ran y gras a’r cymmundeb yng ngweini i’r saint, y rhoddasant,
5
ac nid fel y gobeithiasom, eithr hwynt eu hunain a roddasant hwy yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ni trwy ewyllys Duw:
6
fel yr erfynasom ar Titus, fel y dechreuasai o’r blaen, felly y gorphenai ynoch y gras hwn hefyd.
7
Eithr fel ymhob peth yr ydych yn orlawn, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag attom ni, edrychwch ar fod o honoch yn y gras hwn yn orlawn.
8
Nid trwy orchymyn yr wyf yn dywedyd, eithr gan brofi, trwy astudrwydd eraill, wirionedd eich cariad chwi:
9
canys adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, mai er eich mwyn chwi yr aeth yn dlawd, ac Yntau yn oludog, fel y byddai i chwi, trwy Ei dlodi Ef, fyned yn oludog.
10
Ac fy marn yn hyn a roddaf, canys hyn sydd er eich lles chwi, y rhai oeddych y cyntaf nid yn unig i wneuthur, eithr i ewyllysio hefyd, er y llynedd.
11
Ond yn awr gorphenwch y gwneuthur hefyd, er mwyn fel yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, y bo hefyd y gorphen, o’r gallu;
12
canys os y parodrwydd sydd, yn ol pa beth bynnag sydd gan ddyn y mae yn gymmeradwy, ac nid yn ol yr hyn nad yw ganddo:
13
canys nid fel y bo i eraill ysgafnder,
14
ac i chwi orthrymder; eithr o gyfartalrwydd. Y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y bo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwi,
15
fel y bo cyfartalrwydd; fel yr ysgrifenwyd, “Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo dros ben; a’r hwn a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.”
16
Ond diolch i Dduw, yr Hwn sy’n rhoddi yr un astudrwydd trosoch yng nghalon Titus:
17
canys ein hannogaeth a dderbyniodd efe; a chan fod yn fwy astud, o’i wirfodd ei hun yr aeth allan attoch.
18
A danfonasom gydag ef y brawd yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi;
19
ac nid hyny yn unig, eithr wedi ei ddewis hefyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni yn y gras hwn, yr hwn a wasanaethir genym er gogoniant yr Arglwydd, ac i amlygu ein parodrwydd;
20
gan ochelyd hyn, na fyddai i neb feio arnom yn yr haelioni hwn a wasanaethir genym;
21
canys rhag-ddarparu yr ydym bethau ardderchog, nid yn unig yngolwg yr Arglwydd, eithr yngolwg dynion hefyd.
22
A danfonasom gyda hwynt ein brawd yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod yn astud, ac yn awr yn llawer mwy astud, am yr ymddiried mawr sydd ganddo ynoch.
23
Os am Titus y gofynir, cyd-gyfranogwr yw â mi, a thuag attoch chwi fy nghyd-weithiwr; neu os am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
24
Y prawf, gan hyny, o’ch cariad ac o’n hymffrost ni am danoch, dangoswch iddynt hwy yngwyneb yr eglwysi.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13