bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 11
2 Corinthians 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
1
O na chyd-ddygech â mi mewn ychydig o ffolineb!
2
Eithr cyd-ddygwch â mi hefyd; canys eiddigus wyf drosoch ag eiddigedd duwiol, canys dyweddïais chwi i un gŵr, i’ ch cyflwyno megis morwyn bur i Grist.
3
Ond ofni yr wyf, rhag mewn modd yn y byd, fel y bu i’r sarph dwyllo Efa, yn ei chyfrwysdra, y llygrer eich meddyliau oddiwrth y symlrwydd a’r purdeb sydd tua Christ.
4
Canys yn wir, os yw yr hwn sy’n dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom, neu Yspryd arall a dderbyniwch yr hwn ni dderbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, da y cyd-ddygwch ag ef.
5
Canys meddyliaf nad wyf mewn dim ar ol i’r apostolion tra-rhagorol!
6
Ac os hefyd anghyfarwydd wyf yn fy ymadrodd, etto nid wyf felly mewn gwybodaeth, eithr ymhob peth amlygasom hyn ymhlith pawb, tuag attoch.
7
Ai pechod a wneuthum wrth fy ngostwng fy hun fel y byddai i chwi eich derchafu, gan mai yn rhad yr efengylais i chwi Efengyl Dduw?
8
Eglwysi eraill a yspeiliais, gan dderbyn cyflog ganddynt er y weinidogaeth i chwi;
9
a phan yn bresennol gyda chwi, ac mewn eisiau, ni fu’m faich i neb, canys fy eisiau a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Macedonia; ac ymhob peth y cedwais fy hun heb fod yn drwm arnoch, ac y cadwaf.
10
Y mae gwirionedd Crist ynof, na chaiff yr ymffrost hwn ei attal, o’m rhan i, ym mharthau Achaia.
11
Paham? Am nad wyf yn eich caru? Duw a ŵyr.
12
Ond yr hyn yr wyf yn ei wneud, a wnaf hefyd, fel y torwyf ymaith achlysur y rhai sy’n ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y caffer hwynt fel nyni hefyd;
13
canys y cyfryw rai, gau-apostolion ydynt, gweithwyr twyllodrus, yn traws-ffurfio eu hunain yn apostolion Crist.
14
Ac nid rhyfedd, canys Satan ei hun sy’n traws-ffurfio ei hun yn angel goleuni;
15
nid peth mawr yw, gan hyny, os ei weinidogion ef hefyd a draws-ffurfiant eu hunain megis yn weinidogion cyfiawnder, diwedd y rhai fydd yn ol eu gweithredoedd.
16
Trachefn meddaf, na fydded i neb dybied fy mod i yn ynfyd: onite, etto megis ynfyd derbyniwch fi, fel y bo i minnau hefyd ymffrostio rhyw ychydig.
17
Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid yn ol yr Arglwydd yr wyf yn ei ddywedyd, eithr megis mewn ynfydrwydd, yn yr hyder hwn o ymffrostio.
18
Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, myfi hefyd a ymffrostiaf;
19
canys ag hyfrydwch yr ydych yn cyd-ddwyn â’r ynfydion, gan fod eich hunain yn ddoethion!
20
Canys cyd-ddwyn ag ef yr ydych, os rhyw un a’ch caethiwa chwi, os rhyw un a’ch llwyr-fwytta, os rhyw un a’ch cymmer, os rhyw un a ymdderchafa, os ar eich gwyneb y bydd i ryw un eich tarawo.
21
Yn ol ammharch yr wyf yn dywedyd, fel pe baem ni yn weiniaid; ac ym mha beth bynnag y mae neb yn eofn (mewn ynfydrwydd yr wyf yn dywedyd), eofn ydwyf finnau hefyd.
22
Hebreaid ydynt! yr wyf finnau hefyd. Israeliaid ydynt! yr wyf finnau hefyd. Had Abraham ydynt! yr wyf finnau hefyd.
23
Gweinidogion Crist ydynt! (dan ynfydu yr wyf yn dywedyd,) mwy wyf fi: mewn llafur, mwy dros ben; mewn carcharau, mwy dros ben; mewn gwialennodiau, allan o fesur; mewn marwolaethau yn fynych;
24
gan yr Iwddewon, bum waith, deugain gwialennod namyn un a dderbyniais;
25
tair gwaith y’m curwyd â gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; tair gwaith y torrodd llong arnaf;
26
noswaith a diwrnod y bu’m yn y dyfn-for; mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon afonydd; ym mheryglon lladron; mewn peryglon gan fy nghenedl; mewn peryglon gan genhedloedd; mewn peryglon yn y ddinas; mewn peryglon yn yr anialwch;
27
mewn peryglon ar y môr; mewn peryglon ym mhlith brodyr gau; mewn llafur a lludded; mewn anhuneddau yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni.
28
Heblaw y pethau oddi allan, y mae’ r pwys sydd arnaf beunydd, y pryder am yr holl eglwysi.
29
Pwy sydd wan, ac heb i mi fod yn wan?
30
Pwy a dramgwyddir, nad wyf fi yn llosgi? Os ymffrostio sydd rhaid, am fatterion fy ngwendid yr ymffrostiaf.
31
Duw a Thad ein Harglwydd Iesu a ŵyr (yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd) nad wyf yn celwyddu.
32
Yn Damascus, y llywydd dan Aretas y brenhin a wyliodd ddinas y Damasciaid er mwyn fy nal;
33
a thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd i lawr ar hyd y mur, a dïengais o’i ddwylaw ef.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13