bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 13
2 Corinthians 13
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
1
Y drydedd waith yw hon yr wyf yn dyfod attoch;
2
“Yngenau dau dyst, neu dri, sefydlir pob gair.” Rhag-ddywedais, a rhag-ddywedyd yr wyf, fel pan yn bresennol yr ail waith, ac yr awr hon yn absennol, wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf;
3
gan mai ceisio prawf yr ydych o Grist y sy’n llefaru ynof, yr Hwn tuag attoch chwi nid yw wan, eithr galluog yw ynoch;
4
canys croes-hoeliwyd Ef trwy wendid, eithr byw y mae trwy allu Duw; canys nyni hefyd ydym weiniaid Ynddo Ef, eithr byw fyddwn gydag Ef trwy allu Duw tuag attoch.
5
Chwi eich hunain profwch a ydych yn y ffydd: o honoch eich hunain gwnewch brawf. Onid adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi, oddieithr mai anghymmeradwy ydych?
6
Ond gobeithiaf y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymmeradwy.
7
A gweddïo ar Dduw yr ydym na wneloch ddim sy ddrwg; nid fel y bo i ni ymddangos yn gymmeradwy, eithr fel y bo i chwi wneuthur yr hyn sydd dda, er i ni fod fel yn anghymmeradwy.
8
Canys nis gallwn ddim yn erbyn y gwirionedd, eithr tros y gwirionedd.
9
Canys llawenychwn pan fyddom ni yn weiniaid, a chwychwi yn gryfion; ac am hyn y gweddïwn, sef eich perffeithiad chwi.
10
Gan hyny, y pethau hyn yn fy absennoldeb yr wyf yn eu hysgrifenu, fel, pan yn bresennol, nad arferwyf doster yn ol yr awdurdod y bu i’r Arglwydd ei rhoddi i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr.
11
Yn ddiweddaf, frodyr, byddwch iach; perffeithier chwi; diddaner chwi; yr un peth syniwch; heddychol byddwch; a Duw’r cariad a heddwch fydd gyda chwi.
12
Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.
13
Eich annerch y mae y saint oll.
14
Gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chyfundeb yr Yspryd Glân, a fyddont gyda’r oll o honoch.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13