bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 6
2 Corinthians 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
A chan gydweithio ag Ef deisyfiwn hefyd nad yn ofer
2
y derbyniwch chwi ras Duw (canys dywaid Efe, “Yn amser cymmeradwy y gwrandewais arnat, Ac yn nydd iachawdwriaeth y cynnorthwyais di.” Wele, yn awr y mae’r “amser cymmeradwy;” wele, yn awr y mae “dydd iachawdwriaeth,”)
3
heb roddi o honom ddim tramgwydd mewn dim fel na feier ar y weinidogaeth;
4
eithr ymhob peth yn cymmeradwyo ein hunain megis gweinidogion Duw, mewn amynedd lawer, mewn cystuddiau,
5
mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn trallodau,
6
mewn gwyliedwriaethau, mewn ymprydiau, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hir-ymaros, mewn tiriondeb, yn yr Yspryd Glân,
7
mewn cariad diragrith, yngair y gwirionedd, yngallu Duw; trwy arfau cyfiawnder ar ddehau ac ar aswy, trwy ogoniant a dianrhydedd, trwy anghlod a chlod:
8
fel arweinwyr ar gyfeiliorn, ac er hyny yn eirwir;
9
fel yn anadnabyddus, ac er hyny yn adnabyddus; fel yn meirw, ac wele byw ydym; fel yn cael ein ceryddu, ac heb ein lladd;
10
fel yn cael ein tristau, ond yn wastad yn llawen; fel yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; fel heb ddim genym, ac â phob peth yn ein meddiant.
11
Ein genau a agorwyd wrthych, O Gorinthiaid, ein calon a ehangwyd.
12
Ni chyfyngir arnoch ynom ni, ond cyfyngir arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain.
13
Ond am yr un daledigaeth (fel wrth blant yr wyf yn dywedyd) ehanger chwithau hefyd.
14
Nac iauer chwi yn anghymmarus â rhai digred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? Neu pa gymmundeb i oleuni a thywyllwch?
15
A pha gyssondeb gan Grist â Belial? Neu pa gyfran i gredadyn gydag anghredadyn?
16
A pha gyfundeb i deml Dduw ag eulunod? canys nyni teml i’r Duw byw ydym; fel y dywedodd Duw, “Preswyliaf ynddynt, a rhodiaf yn ddynt, a byddaf eu Duw hwynt, a hwy a fyddant Fy mhobl I.”
17
Gan hyny, “Deuwch allan o’u canol, ac ymddidolwch, medd Iehofah, Ac â pheth aflan na chyffyrddwch;
18
Ac Myfi a’ch derbyniaf, ac a fyddaf i chwi yn dad, A chwithau fyddwch i Mi yn feibion ac yn ferched, medd yr Arglwydd Hollalluog.”
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13