bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 5
2 Corinthians 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
1
Canys gwyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddattodir, fod adeilad oddiwrth Dduw genym, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd;
2
canys yn hon yr ym yn ocheneidio, gan hiraethu am ymwisgo â’n tŷ y sydd o’r nef;
3
os hefyd wedi ymwisgo, nid yn noethion y’n ceir;
4
canys ni y sydd yn y babell hon, ocheneidio yr ydym, yn llwythog, nid am ewyllysio o honom ddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer y marwol gan fywyd.
5
A’r hwn a’n gweithiodd ni i’r peth hwn ei hun yw Duw, yr hwn a roddodd i ni ernes yr Yspryd.
6
Gan fod yn hyderus, gan hyny, bob amser, ac yn gwybod tra’r ydym yn gartrefol yn y corph,
7
ein bod yn absennol oddiwrth yr Arglwydd (canys trwy ffydd y rhodiwn, ac nid wrth olwg,)
8
hyderus ydym, a boddlonir ni yn hytrach i fod yn absennol o’r corph, a chartrefu gyda’r Arglwydd.
9
O herwydd paham, ymorchestu yr ydym hefyd, pa un bynnag ai cartrefu yr ydym ai yn absennol, i fod yn gymmeradwy Ganddo Ef;
10
canys i bawb o honom y mae rhaid ein hamlygu ger bron brawd-faingc Crist, fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg.
11
Gan wybod, gan hyny, ofn yr Arglwydd, dynion a berswadiwn, ond i Dduw y’n hamlygwyd, a gobeithiaf mai yn eich cydwybodau chwi hefyd y’n hamlygwyd.
12
Nid ein canmol ein hunain i chwi drachefn yr ydym, eithr yn rhoddi i chwi achlysur ymffrost o’n plegid, fel y bo genych yn erbyn y rhai sy’n ymffrostio yn y golwg, ac nid yn y galon;
13
canys pa un bynnag ai allan o’n pwyll yr ydym, i Dduw y mae;
14
ai yn ein pwyll, i chwi y mae; canys cariad Crist sydd yn ein cymmell, gan farnu o honom y bu un farw dros bawb,
15
a chan hyny, pawb a fuant feirw: a thros bawb y bu Efe farw, fel y byddai i’r rhai byw ddim mwyach fyw iddynt eu hunain, eithr i’r Hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
16
Felly nyni, o hyn allan, nid adwaenwn neb yn ol y cnawd; ac os adnabuom Grist yn ol y cnawd, etto yn awr nid adwaenom Ef mwyach felly.
17
Felly os yng Nghrist y mae neb, creadur newydd yw; yr hen bethau a aethant heibio; wele, aethant yn newydd.
18
A’r holl bethau, oddiwrth Dduw y maent, yr Hwn a’n cymmododd ag Ef Ei hun trwy Grist, ac a roddes i ni weinidogaeth y cymmod,
19
sef yr oedd Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd ag Ef Ei hun, heb gyfrif iddynt eu camweddau, ac wedi rhoddi ynom ni air y cymmod.
20
Tros Grist, gan hyny, yr ym genhadau, fel â Duw yn deisyf trwom. Erfyn tros Grist yr ydym, Cymmoder chwi â Duw.
21
Yr Hwn nad adnabu bechod, trosom ni a wnaeth Efe yn bechod, fel yr aem ni yn gyfiawnder Duw Ynddo Ef.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13