bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Corinthians 4
2 Corinthians 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Gan hyny, a chenym y weinidogaeth hon, fel y trugarhawyd wrthym, nid ydym yn pallu;
2
eithr ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn anfadrwydd, na thrin Gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy amlygiad y gwirionedd yn canmol ein hunain i bob cydwybod dynion yngolwg Duw.
3
Ac os cuddiedig hefyd yw ein hefengyl, yn y rhai sy’n myned ar goll y mae yn guddiedig;
4
yn y rhai, duw y byd hwn a ddallodd feddyliau y rhai digred, fel na thywynai arnynt lewyrch efengyl ogoneddus Crist, yr Hwn yw delw Dduw.
5
Canys nid ni ein hunain yr ydym yn ein pregethu, eithr Crist Iesu yr Arglwydd, a ni ein hunain yn weision i chwi er mwyn yr Iesu.
6
Canys Duw, yr Hwn a ddywedodd, “O dywyllwch goleuni a lewyrcha,” yw’r Hwn a lewyrchodd yn eich calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.
7
Ond y mae genym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y bo rhagoroldeb y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.
8
O bob parth y gwesgir arnom, eithr heb ein cyfyngu; wedi ein dyrysu, eithr nid yn ddiobaith;
9
yn cael ein herlid, eithr heb ein gadael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ddarfod am danom;
10
peunydd yn cylch-arwain marweiddiad yr Iesu yn ein corph, fel y bo i fywyd yr Iesu hefyd ei amlygu yn ein corph,
11
canys yn wastad nyni y sydd fyw a draddodir i farwolaeth er mwyn Iesu, fel y bo i fywyd yr Iesu ei amlygu yn ein cnawd marwol.
12
Felly, angau sy’n gweithio ynom ni, ond bywyd ynoch chwi.
13
Ond a chenym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn sydd ysgrifenedig, “Credais, gan hyny y lleferais,” nyni hefyd ym yn credu, a chan hyny llefaru yr ydym;
14
gan wybod y bydd i’r Hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd ynghydag Iesu,
15
ac ein gosod gerbron ynghyda chwi; canys pob peth sydd er eich mwyn, fel y bo i’r gras, wedi amlhau trwy ddiolchgarwch y rhan fwyaf, ymhelaethu i ogoniant Duw.
16
O herwydd hyny, nid ydym yn pallu; eithr os yw ein dyn oddi allan yn cael ei ddifetha, er hyny, ein dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd;
17
canys ysgafnder presennol ein gorthrymder, yn ddirfawr a dirfawr, bwys tragywyddol gogoniant a weithia efe i ni,
18
a ni nid yn edrych ar y pethau a welir, eithr ar y rhai na welir, canys y pethau a welir, am ryw amser y maent; ond y rhai na welir, tragywyddol ydynt.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13