bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 11
Hosea 11
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 12 →
1
Pan oedd Israel yn blentyn roeddwn yn ei garu, a gelwais fy mab allan o'r Aifft.
2
Ond po fwya roeddwn i'n galw, pellaf roedden nhw'n mynd. Roedden nhw'n aberthu i ddelwau o Baal, a llosgi arogldarth i eilunod.
3
Fi ddysgodd Effraim i gerdded; a'i arwain gerfydd ei law. Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabod mai fi ofalodd amdanynt.
4
Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr — tennyn cariad. Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf, a fi wnaeth blygu i'w bwydo.
5
Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft! Bydd Asyria'n eu rheoli, am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i.
6
Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi. Bydd y gelyn yn malu'r giatiau, a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.
7
Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i. Maen nhw'n galw ar Baal, ond fydd e byth yn eu helpu nhw!
8
Sut alla i dy roi heibio, Effraim? Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel? Sut alla i dy roi heibio fel Adma? Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm? Na, dw i wedi newid fy meddwl! Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.
9
Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi. Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr! Duw ydw i, nid dyn fel chi, yr Un Sanctaidd — dw i ddim am ddod i ddinistrio.”
10
Bydd yr ARGLWYDD yn rhuo fel llew, a byddan nhw'n ei ddilyn eto. Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dod o'r gorllewin yn llawn cyffro.
11
Dod ar frys fel adar o'r Aifft, neu golomennod yn hedfan o Asyria. “Bydda i'n eu casglu nhw'n ôl i'w cartrefi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
12
Ac eto celwydd Effraim sydd o'm cwmpas; dydy pobl Israel yn gwneud dim byd ond twyllo. Ac mae Jwda'n crwydro yn ôl ac ymlaen oddi wrth Dduw — yr Un Sanctaidd, sydd mor ffyddlon.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14