bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 12
Hosea 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 13 →
1
Mae Effraim yn rhedeg ar ôl cysgodion — mae fel ffŵl sy'n dyheu am wynt poeth y dwyrain! Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn. Mae'n gwneud cytundeb gydag Asyria, ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i'r Aifft!
2
Mae'r ARGLWYDD am ddwyn achos yn erbyn Jwda: bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn; talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.
3
Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth, a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn!
4
Reslo gydag angel heb golli — crïo a pledio arno i'w fendithio. Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethel a siarad gydag e yno —
5
Ie, yr ARGLWYDD! Y Duw holl-bwerus! Yr ARGLWYDD ydy ei enw am byth!
6
Rhaid i ti droi'n ôl at Dduw! — byw bywyd o gariad a chyfiawnder, a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.
7
Fel masnachwyr gyda chlorian sy'n twyllo, maen nhw wrth eu boddau'n manteisio.
8
Ac mae Effraim yn brolio: “Dw i'n gyfoethog! Dw i wedi gwneud arian mawr! A does neb yn gallu gweld y twyll, neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”
9
“Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft. Dw i'n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto, fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch.
10
Dw i wedi siarad drwy'r proffwydi — mewn gweledigaethau a negeseuon.”
11
Ydy Gilead yn addoli eilunod? Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl! Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal? Ydynt, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrig mewn cae wedi ei aredig!
12
Roedd rhaid i Jacob ddianc i wlad Aram — gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig, a cadw defaid i dalu amdani.
13
Yna defnyddiodd yr ARGLWYDD broffwyd i arwain Israel allan o'r Aifft, ac i'w cadw nhw'n fyw yn yr anialwch.
14
Ond mae Effraim wedi ei bryfocio i ddigio. Bydd ei Feistr yn ei ddal yn gyfrifol am y tywallt gwaed, ac yn gwneud iddo dalu am fod mor ddirmygus.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14