bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 6
Hosea 6
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 7 →
1
“Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr ARGLWYDD. Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu! Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau!
2
Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig; bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o bryd. Cawn fyw yn ei gwmni,
3
a'i nabod yn iawn. Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD. Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri. Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.”
4
O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim? Beth wna i gyda chi, bobl Jwda? Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore, neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar.
5
Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro. Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn. Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr.
6
Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau! Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi.
7
Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda! Maen nhw wedi fy mradychu i!
8
Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg, ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd.
9
Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron, yn cuddio i ymosod ar bobl — yn llofruddio ar y ffordd i Sichem. Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg!
10
Dw i wedi gweld pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd! Mae Effraim yn puteinio — mae Israel wedi ei llygru'n llwyr!
11
Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda! Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto;
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14