bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 14
Hosea 14
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
1
O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio.
2
Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau'n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti.
3
Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!”
4
“Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio, a'u caru nhw'n ddiamod. Dw i'n mynd i droi cefn ar fy nig.
5
Bydda i fel gwlith i Israel — bydd hi'n blodeuo fel saffrwn, a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus.
6
Bydd ei blagur yn tyfu; bydd yn hardd fel coeden olewydd, a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.
7
Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod. Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu; bydd yn enwog fel gwin Libanus.
8
Fydd gan Effraim ddim i'w wneud ag eilunod byth eto! Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano. Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd, bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.”
9
Pwy sy'n ddoeth? Bydd e'n deall. Pwy sy'n gall? Bydd e'n gwybod. Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn — bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn, ond y rhai sy'n gwrthryfela yn baglu.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14