bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 13
Hosea 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 14 →
1
Pan oedd llwyth Effraim yn siarad roedd pawb yn crynu — roedd pawb yn ei barchu yn Israel. Ond buont ar fai yn addoli Baal, a dyna oedd eu diwedd.
2
Ac maen nhw'n dal i bechu! Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd; eilunod cywrain wedi eu gwneud o arian — ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl! Mae yna ddywediad amdanyn nhw: “Mae'r bobl sy'n aberthu yn cusanu teirw!”
3
Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore, neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar; fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu, neu fwg sy'n dianc drwy ffenest.
4
“Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw, ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft. Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi — Fi ydy'r unig un sy'n achub!
5
Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch, mewn tir sych, diffaith.
6
Ond wedi eu bwydo, roedden nhw'n fodlon — mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch, ac yna fy anghofio i!
7
Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew, ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
8
Bydda i'n ymosod arnyn nhw fel arth wedi colli ei chenawon; a'i llarpio nhw fel llew, neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.
9
Dw i'n mynd i dy ddinistrio di, O Israel! Pwy sydd yna i dy helpu di?
10
Ble mae dy frenin, iddo fe dy achub di? Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi? Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.
11
Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig, a dw i wedi ei gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth!
12
Mae'r dyfarniad ar Effraim wedi ei gofnodi, a'i gosb wedi ei gadw'n saff iddo.
13
Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy'n cael babi; mae'r amser wedi dod, ac mae'r plentyn dwl yn gwrthod dod allan o'r groth, a byw.
14
Ydw i'n mynd i'w hachub nhw o fyd y meirw? Ydw i'n mynd i'w rhyddhau o afael marwolaeth? O farwolaeth! Ble mae dy blâu di? O fedd! Ble mae dy ddinistr di? Fydda i'n dangos dim trugaredd!”
15
Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors, ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain i fyny o gyfeiriad yr anialwch. Bydd y dŵr yn sychu, a'r ffynhonnau'n diflannu, a'r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.
16
Bydd Samaria yn cael ei galw i gyfri am wrthryfela yn erbyn ei Duw. Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel, plant bach yn cael eu curo i farwolaeth, a'r gwragedd beichiog yn cael eu rhwygo'n agored.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14