bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 8
Hosea 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 9 →
1
Canwch y corn hwrdd! Rhybuddiwch y bobl! Mae eryr yn hofran uwch teml yr ARGLWYDD. Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad gyda mi, ac wedi gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.
2
Mae Israel yn galw arna i, “O Dduw, dŷn ni'n dy gydnabod di!”
3
Ond mae'n rhy hwyr! Mae Israel wedi gwrthod y da, a bydd y gelyn yn ei erlyn.
4
Maen nhw wedi dewis brenhinoedd heb ofyn i mi. Maen nhw wedi urddo arweinwyr heb i mi gytuno. Maen nhw wedi gwneud eilunod gyda'r arian a'r aur oedd ganddyn nhw — ffordd dda i ddinistrio'i hunain!
5
Dw i wedi gwrthod tarw Samaria. Dw i wedi digio'n lân gyda nhw! Fydd hi ddim yn hir nes i mi eu cosbi nhw,
6
er mai pobl Israel ydyn nhw! Cafodd y peth hwnnw ei greu gan grefftwr — nid Duw ydy e! Felly, bydd tarw Samaria yn cael ei falu'n ddarnau mân!
7
Maen nhw wedi hau gwynt, ond byddan nhw'n medi corwynt! ‛Dydy ŷd heb ben ddim yn rhoi blawd.‛ Hyd yn oed petai'n rhoi cnwd, pobl estron fydd yn ei fwyta.
8
Bydd Israel wedi ei llyncu gan y cenhedloedd; bydd fel darn o sbwriel wedi ei daflu i ffwrdd.
9
Maen nhw wedi mynd i fyny i Asyria — fel asyn gwyllt yn crwydro'n unig. Mae Effraim wedi bod yn talu am ei chariadon.
10
Am ei bod nhw wedi talu am gariad y cenhedloedd, dw i'n mynd i'w casglu nhw i gael eu barnu, a byddan nhw'n gwywo dan orthrwm y brenin mawr.
11
Er fod Effraim wedi adeiladu allorau i aberthu dros bechod, maen nhw wedi eu troi yn allorau i bechu!
12
Er fy mod wedi rhoi cyfreithiau manwl iddyn nhw, maen nhw'n trin y cwbl fel rhywbeth hollol ddieithr!
13
Mae'n nhw'n dod i offrymu aberthau er mwyn cael bwyta'r cig! Dydy'r ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw! Yn fuan iawn, bydd yn delio gyda'i pechodau nhw, ac yn eu cosbi nhw; byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!
14
Mae Israel wedi anghofio'i Chrëwr. Mae Jwda wedi adeiladu palasau, a chryfhau ei chaerau amddiffynnol. Ond bydda i'n anfon tân i'w threfi, ac yn llosgi ei phalasau.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14