bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 5
Hosea 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 6 →
1
Gwrandwch, chi offeiriaid! Daliwch sylw, bobl Israel! Clywch, chi'r teulu brenhinol! Mae'r farn ar fin dod arnoch! Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa, a rhwyd i ddal pobl Tabor;
2
yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol, a bydda i'n eich cosbi chi i gyd.
3
Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim. Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i! Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio — mae Israel wedi ei llygru'n llwyr.
4
Mae eu drygioni'n eu rhwystro rhag troi yn ôl at eu Duw. Mae puteindra ysbrydol wedi eu meddiannu, a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.
5
Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn. Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni. A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.
6
Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr ARGLWYDD gyda'i defaid a'u geifr a'u bustych. Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi eu gadael nhw.
7
Maen nhw wedi bradychu'r ARGLWYDD ac maen nhw wedi cael plant siawns. Yn fuan iawn, ar Ŵyl y Lleuad Newydd, byddan nhw a'u tir yn cael eu difa.
8
Chwythwch y corn hwrdd yn Gibea! Canwch utgorn yn Rama! Rhybuddiwch bobl Beth-afen! Ti fydd gyntaf, Benjamin!
9
Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi! Mae beth dw i'n ei ddweud wrth lwythau Israel yn mynd i ddigwydd.
10
Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy'n symud terfyn i ddwyn tir; a bydda i'n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd!
11
Bydd Effraim yn cael ei orthrymu, a'i sathru pan fydda i'n barnu; am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth.
12
Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim, fel pydredd i bobl Jwda.
13
Pan welodd Effraim ei fod yn sâl, a Jwda'n gweld ei ddolur, dyma Effraim yn troi at Asyria am help gan ‛y brenin mawr‛. Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu. Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!
14
Fi sy'n ymosod ar Effraim a Jwda, fel llew yn rhwygo ei ysglyfaeth. Fi — ie, fi! Bydda i'n eu rhwygo nhw'n ddarnau a'i cario nhw i ffwrdd. Fydd neb yn gallu eu helpu.
15
Bydda i'n mynd yn ôl i'm ffau nes byddan nhw'n cyfaddef eu bai. Wedyn, byddan nhw'n chwilio amdana i; yn eu helbul, byddan nhw'n chwilio'n daer amdana i:
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14