bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 7
Hosea 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 8 →
1
dw i eisiau iacháu Israel. Ond mae pechod Effraim yn y golwg, a drygioni Samaria mor amlwg. Maen nhw mor dwyllodrus! Mae lladron yn torri i mewn i'r tai, a gangiau'n dwyn ar y strydoedd.
2
Dŷn nhw ddim yn sylweddoli fy mod i'n gweld y drwg i gyd. Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw — dw i'n ei weld o flaen fy llygaid!
3
Mae'r brenin yn mwynhau gweld drwg a'r tywysogion yn twyllo.
4
Maen nhw i gyd yn godinebu! Maen nhw fel popty crasboeth — does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tân tra mae'n tylino'r toes, na pan mae'n cael ei bobi!
5
Mae'r brenin yn cynnal parti, ac mae'r tywysogion yn meddwi; Mae e'n cynllwynio gyda paganiaid
6
ac yn troi ata i gan fwriadu brad. Bwriadau sydd fel popty poeth, yn mudlosgi drwy'r nos ac yn cynnau'n fflamau tân yn y bore.
7
Maen nhw i gyd fel popty crasboeth, yn lladd eu llywodraethwyr. Mae eu brenhinoedd i gyd wedi syrthio, a does dim un yn galw arna i!
8
Mae Effraim wedi cymysgu gyda'r cenhedloedd. Mae fel bara tenau wedi ei losgi ar un ochr!
9
Mae estroniaid yn sugno ei nerth, a dydy e ddim wedi sylwi! Mae fel hen ddyn a'i wallt yn britho heb iddo sylwi!
10
Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn. Wnân nhw ddim troi'n ôl at yr ARGLWYDD eu Duw! Er gwaetha'r cwbl maen nhw'n gwrthod troi ato.
11
Mae Effraim fel colomen ddisynnwyr, hawdd i'w thwyllo — mae'n galw ar yr Aifft am help, ac wedyn yn troi at Asyria.
12
Bydda i'n taflu fy rhwyd i'w rhwystro rhag hedfan; bydda i'n eu dal nhw fel dal adar, ac yn eu cosbi nhw pan glywa i nhw'n heidio at ei gilydd.
13
Gwae nhw am geisio dianc oddi wrtho i! Dinistr gân nhw am wrthryfela yn fy erbyn i! Sut alla i eu gollwng nhw'n rhydd pan maen nhw'n dweud celwydd amdana i?
14
Dŷn nhw ddim yn galw arna i o ddifrif. Maen nhw'n gorweddian ar eu gwlâu yn gweiddi, a torri eu hunain â chyllyll wrth ofyn am ŷd a grawnwin. Maen nhw wedi troi cefn arna i,
15
er mai fi wnaeth eu dysgu nhw. Fi wnaeth eu gwneud nhw'n gryf, ond maen nhw'n cynllwynio i wneud drwg i mi.
16
Maen nhw'n troi at Baal! Maen nhw fel bwa llac, yn dda i ddim. Byddan nhw'n cael eu lladd gan y gelyn am siarad mor hy yn fy erbyn. Byddan nhw'n destun sbort i bobl yr Aifft.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14