bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hosea 2
Hosea 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 3 →
1
“Byddi'n galw dy frawd yn Ammi (sef ‛fy mhobl‛), a dy chwaer yn Rwhama (sef ‛trugaredd‛)!
2
Plediwch yn daer gyda'ch mam (Dydy hi ddim yn wraig i mi, a dw i ddim yn ŵr iddi hi.) Plediwch arni i stopio peintio ei hwyneb fel putain, a dangos ei bronnau i bawb.
3
Neu bydda i'n rhwygo ei dillad oddi arni — bydd hi'n hollol noeth, fel ar ddiwrnod ei geni. Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch. Bydd fel tir sych; a bydd hi'n marw o syched.
4
Fydda i'n dangos dim trugaredd at ei phlant, am mai plant siawns ydyn nhw, am iddi buteinio.
5
Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw; mae hi wedi ymddwyn yn warthus. Roedd hi'n dweud: ‘Dw i'n mynd at fy nghariadon. Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi, gwlân, llin, olew, a diodydd.’
6
Felly, dw i am gau ei ffordd gyda drain a chodi wal i'w rhwystro, fel ei bod hi'n colli ei ffordd.
7
Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon, bydd hi'n methu eu cyrraedd nhw. Bydd hi'n chwilio, ond yn methu ffeindio nhw. Bydd hi'n dweud wedyn, ‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr. Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’
8
“Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd — ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal!
9
Felly, dw i'n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl, a'r cynhaeaf grawnwin hefyd. Dw i'n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a'r llin oeddwn i wedi ei roi iddi i'w gwisgo.
10
Yn fuan iawn, dw i'n mynd i wneud iddi sefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon. Fydd neb yn gallu ei helpu hi!
11
Bydd ei holl bartïo ar ben: ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a'i Sabothau wythnosol — pob un parti!
12
Bydda i'n difetha ei gwinllannoedd a'i choed ffigys — roedd hi'n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl. Bydda i'n troi'r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu'n wyllt; dim ond anifeiliaid gwylltion fydd yn bwyta eu ffrwyth.
13
Bydda i'n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi'n llosgi arogldarth i ddelwau o Baal. Roedd hi'n gwisgo'i chlustdlysau a'i gemwaith i fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
14
“Felly, dw i'n mynd i'w denu hi yn ôl ata i. Dw i'n mynd i'w harwain hi yn ôl i'r anialwch a siarad yn rhamantus gyda hi eto.
15
Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi, a troi Dyffryn y Drychineb yn Giât Gobaith Bydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc, pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft.
16
Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “byddi'n galw fi, ‛fy ngŵr‛; fyddi di byth eto'n fy ngalw i, ‛fy meistr‛.
17
Bydda i'n gwneud i ti anghofio enwau'r delwau o Baal; fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto.
18
Bryd hynny, bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda'r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a'r holl bryfed ar y ddaear Bydda i'n cael gwared ag arfau rhyfel — y bwa saeth a'r cleddyf; A bydd fy mhobl yn byw'n saff a dibryder.
19
Bydda i'n dy gymryd di'n wraig i mi am byth. Bydda i'n dy drin di'n deg, yn gyfiawn, ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat.
20
Bydda i'n ffyddlon i ti bob amser, a byddi di'n fy nabod i, yr ARGLWYDD.
21
Bryd hynny, bydda i'n ymateb i ti'n frwd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n rhoi cymylau i'r awyr, a bydd yr awyr yn rhoi glaw i'r tir.
22
Bydd y tir yn rhoi dŵr i'r ŷd, y grawnwin a'r olewydd. A bydd ffrwyth y tir ar gael i Jesreel.
23
Bydda i'n ei phlannu i mi fy hun yn y tir. Bydd ‛heb drugaredd‛ yn cael profi trugaredd. Bydda i'n dweud wrth ‛nid fy mhobl‛, ‛dych chi'n bobl i mi‛. A byddan nhw'n ateb, ‘Ti ydy'n Duw ni!’.”
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14