bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 1
Ecclesiastes 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 2 →
1
Geiriau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
2
Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl.
3
Pa fudd sydd i ddyn o'i holl lafur a gymer efe dan yr haul?
4
Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth.
5
Yr haul hefyd a gyfyd, a'r haul a fachlud, ac a brysura i'w le lle y mae yn codi.
6
Y gwynt a â i'r deau, ac a amgylcha i'r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.
7
Yr holl afonydd a redant i'r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o'r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith.
8
Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed.
9
Y peth a fu, a fydd; a'r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.
10
A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni.
11
Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.
12
Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem;
13
Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes DUW ar feibion dynion i ymguro ynddo.
14
Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
15
Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol.
16
Mi a ymddiddenais â'm calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o'm blaen i yn Jerwsalem; a'm calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth.
17
Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.
18
Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
Recommended Reading
Commentary
Ecclesiastes Commentaries
→
Devotional
Ecclesiastes Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→