bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 6
Ecclesiastes 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 7 →
1
Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion:
2
Gŵr y rhoddodd DUW iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i'w enaid a'r a ddymunai; a DUW heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a'i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.
3
Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.
4
Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a'i enw a guddir â thywyllwch.
5
Yntau ni welodd mo'r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i'r llall.
6
Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i'r un lle yr â pawb?
7
Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef.
8
Canys pa ragoriaeth sydd i'r doeth mwy nag i'r annoeth? beth sydd i'r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?
9
Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd.
10
Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â'r neb sydd drech nag ef.
11
Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?
12
Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12