bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 3
Ecclesiastes 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 4 →
1
Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd:
2
Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd;
3
Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu;
4
Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio;
5
Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio;
6
Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith;
7
Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd;
8
Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch.
9
Pa fudd sydd i'r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio?
10
Mi a welais y blinder a roddes DUW ar feibion dynion, i ymflino ynddo.
11
Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth DUW o'r dechreuad hyd y diwedd.
12
Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.
13
A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o'i holl lafur; rhodd DUW yw hynny.
14
Mi a wn beth bynnag a wnêl DUW, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae DUW yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef.
15
Y peth a fu o'r blaen sydd yr awr hon; a'r peth sydd ar ddyfod a fu o'r blaen: DUW ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.
16
Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.
17
Mi a ddywedais yn fy nghalon, DUW a farn y cyfiawn a'r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno.
18
Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i DDUW eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt.
19
Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i'r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl.
20
Y mae y cwbl yn myned i'r un lle: pob un sydd o'r pridd, a phob un a dry i'r pridd eilwaith.
21
Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail, yr hwn sydd yn disgyn i waered i'r ddaear?
22
Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a'i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12