bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 8
Ecclesiastes 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 9 →
1
Pwy sydd debyg i'r doeth? a phwy a fedr ddeongl peth? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb, a nerth ei wyneb ef a newidir.
2
Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin, a hynny oherwydd llw DUW.
3
Na ddos ar frys allan o'i olwg ef; na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun.
4
Lle y byddo gair y brenin, y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur?
5
Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddi wrth ddrwg; a chalon y doeth a edwyn amser a barn.
6
Canys y mae amser a barn i bob amcan; ac y mae trueni dyn yn fawr arno.
7
Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd?
8
Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog.
9
Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo.
10
Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd.
11
Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg.
12
Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i'r rhai a ofnant DDUW, y rhai a arswydant ger ei fron ef.
13
Ond ni bydd daioni i'r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron DUW.
14
Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn. Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd.
15
Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o'i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes DUW iddo dan yr haul.
16
Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear, (canys y mae ni wêl hun â'i lygaid na dydd na nos;)
17
Yna mi a edrychais ar holl waith DUW, na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul: oblegid er i ddyn lafurio i geisio, eto nis caiff; ie, pe meddyliai y doeth fynnu gwybod, eto ni allai efe gael hynny.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12