bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 12
Ecclesiastes 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
1
Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o'r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt:
2
Cyn tywyllu yr haul, a'r goleuni, a'r lleuad, a'r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw:
3
Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri;
4
A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a'i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd:
5
Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a'r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol:
6
Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew.
7
Yna y dychwel y pridd i'r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at DDUW, yr hwn a'i rhoes ef.
8
Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.
9
A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i'r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.
10
Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a'r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.
11
Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail.
12
Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i'r cnawd.
13
Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna DDUW, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn.
14
Canys DUW a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12