bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 5
Ecclesiastes 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 6 →
1
Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ DDUW, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg.
2
Na fydd ry brysur â'th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron DUW: canys DUW sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.
3
Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau.
4
Pan addunedech adduned i DDUW, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl.
5
Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu.
6
Na ad i'th enau beri i'th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai DUW wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo?
7
Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di DDUW.
8
Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na'r uchaf yn gwylied; ac y mae un sydd uwch na hwynt.
9
Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.
10
Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na'r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd.
11
Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i'w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i'w perchennog, ond eu gweled â'u llygaid?
12
Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu.
13
Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i'w perchennog.
14
Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.
15
Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o'i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law.
16
A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr â efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt?
17
Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.
18
Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o'i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes DUW iddo: canys hynny yw ei ran ef.
19
Ie, i bwy bynnag y rhoddes DUW gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd DUW yw hyn.
20
Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd; am fod DUW yn ateb i lawenydd ei galon ef.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12