bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 7
Ecclesiastes 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 8 →
1
Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.
2
Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a'r byw a'i gesyd at ei galon.
3
Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon.
4
Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd.
5
Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid.
6
Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain dan grochan. Dyma wagedd hefyd.
7
Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddifetha y galon.
8
Gwell yw diweddiad peth na'i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na'r balch o ysbryd.
9
Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid.
10
Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.
11
Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i'r rhai sydd yn gweled yr haul.
12
Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i'w pherchennog.
13
Edrych ar orchwyl DUW: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe?
14
Yn amser gwynfyd bydd lawen; ond yn amser adfyd ystyria: DUW hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef.
15
Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd: y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder, ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni.
16
Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y'th ddifethit dy hun?
17
Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser?
18
Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno DDUW, a ddaw allan ohonynt oll.
19
Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas.
20
Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.
21
Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio.
22
Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.
23
Hyn oll a brofais trwy ddoethineb: mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf.
24
Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a'i caiff?
25
Mi a droais â'm calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb ac ynfydrwydd:
26
Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a'i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan DDUW, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi.
27
Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o'r naill beth i'r llall, i gael y rheswm;
28
Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais.
29
Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur o DDUW ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12